elidirjones

32 Followers
69 Following
8 Posts

• Awdur/Author: Chwedlau'r Copa Coch; Seren a Sbarc; Sgrech y Creigiau
• Addasydd/Translator: Y Bwystfil a'r Betsan (The Beast and the Bethany)
• Sgriptiwr/Scriptwriter: Cynefin; Arfordir Cymru
• Isdeitlydd/Subtitler: Cyfatebol

Bangor lad ffantasiol ac arswydus, bellach ym Mhontypridd.
Fantasy and horror-obsessed Bangor lad, settled in Pontypridd.

Joined18 Nov 2022

Hei, pwy sy isio nofel arswyd #Cymraeg newydd gen i FIS NESA?

Ar drip gwersylla yng Nghwm Darran, bydd cyfrinachau’n cael eu datgelu, hen ffrindiau’n troi’n elynion, a hunllefau o berfeddion llên gwerin Cymru yn dod yn fyw.

Fel rhan o gyfres Stori Sydyn, fe ddylai apelio at ddarllenwyr o bob math a gallu – unrhyw un sy wedi gwirioni ar ddarllen Stephen King efo tortsh dan y dillad gwely.

Drychwch arno fo yn ei holl ogoniant sbwci!

https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781800995017&tsid=3

www.gwales.com - 9781800995017, Stori Sydyn: Aduniad

Os fyddwch chi yn yr #eisteddfod ym Moduan flwyddyn yma, ella welwch chi fwy na derwyddon a Dona Diredi yn crwydro'r lle...

Mae #yrhogynpren yn gynhyrchiad byr i bob oed dwi 'di ei sgwennu i #theatrgenedlaetholcymru, yn dod â phypedwaith byw a rhai o actorion gorau Prydain i'r Maes.

Ges i weld Yr Hogyn Pren wrth ei waith ddoe. Rhwng chi a fi, dwi erioed wedi gweld tîm mwy talentog yn fy mywyd, nac wedi teimlo cymaint o groen gŵydd mewn chwarter awr. Mae hwn yn sbeshal. #cymraeg

Ges i'r pleser o ymuno â @boimoel ar #BBC #RadioCymru wythnos dwytha' i glebran am fwganod Cymreig o bob lliw a llun, wrth drafod fy llyfr newydd am #lêngwerin #ysbrydion #Cymru - The #Folklore of #Wales: #Ghosts 👻

Y sgwrs yn ei gyfanrwydd yma 👇

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p0fxk9kb

Aled Hughes - Llyfr Ysbrydion Delyth Badder - BBC Sounds

Delyth Badder yn trafod ei chyfrol newydd sy'n rhoi llên gwerin ysbrydol dan y chwyddwydr.

BBC

Dwi'n gwybod mai nid dyma'r lle i werthu pethau, ond mae fy nofel newydd 'Lladron y Deyrnas Goll' yn taro siopau wythnos yma. Dyma'r pedwerydd llyfr yn y gyfres #ffantasi epig Chwedlau'r Copa Coch. Dwi mor prowd o'r gyfres, ac o'r un yma'n enwedig. Bwystfilod Lovecraftaidd, cestyll Gothig, a mecha-siwtiau anferth. Ond yn Gymraeg.

My new #welsh language #fantasy novel is published this week. You might not understand a word, but it's worth it for Huw Aaron's illustrations alone, don't you think?

Y meddyg sy’n mwynhau hen hanesion arswydus

“Mae’r tŷ bellach yn llawn hen geriach gwreiddiol dw i wedi bod yn casglu ers i ni symud yma, bron na fysa ni’n gallu agor amgueddfa ein hunan!” #CylchgrawnGolwg #portread

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2113840-meddyg-mwynhau-hanesion-arswydus?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Y meddyg sy’n mwynhau hen hanesion arswydus

Hen hanesion arswydus am ysbrydion Cymru yw diddordeb mawr meddyg o’r gogledd sy’n byw yn y de. Mae Dr Delyth Badder yn rhannu ei hamser rhwng astudio llên gwerin Cymru a’i gwaith yn batholegydd pediatrig i’r Gwasanaeth Iechyd. “Roeddwn i wedi penderfynu’n ddeg oed fy mod i am fod yn batholegydd ar ôl gwylio ryw raglen ddogfen neu’i gilydd ar y teledu, a dydy’r penderfyniad yna erioed wedi gwyro,” eglura Delyth sy’n 35 oed. “Dw i’n cofio’r golwg ar wyneb fy athrawes i yn yr ysgol pan wnes i ddweud wrthi’r bore wedyn fy mod i wedi penderfynu bod yn batholegydd! “Es i i Ysgol Feddygaeth Caerdydd, a thra’r oeddwn i yno roeddwn i’n treulio bob gwyliau yn y marwdy yn Ysbyty Gwynedd yn edrych ar archwiliadau post mortems, ac yn edrych ar wahanol batholeg lawr y meicrosgop.

Golwg360

#Cyflwyniad / an #introduction:

Awdur #ffantasi ac #arswyd sydd hefyd yn dablo mewn #isdeitlo a #sgriptio.

Hogyn #Bangor yn wreiddiol, boi #Pontypridd bellach.

Disgwyliwch fwydro #Cymraeg: #llyfrau, #cŵn, #bwydfigan a #Springsteen. Uffar o frand.

/

#Fantasy and #horror #author who also dabbles in #subtitling and #scriptwriting.

A #Bangor lad, now in #Pontypridd.

Expect nonsense about #books, #dogs, #veganfood and #Springsteen, mainly in #Welsh. What a brand.