Pobol Gwynedd sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn gallu hawlio £200
Mae’r cynllun hwn wedi’i sefydlu er mwyn helpu pobol i dalu eu biliau tanwydd #bro
https://golwg.360.cymru/newyddion/arian-a-busnes/2114743-pobol-gwynedd-gymwys-gyfer-cynllun-cymorth-tanwydd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Pobol Gwynedd sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn gallu hawlio £200
Gall aelwydydd cymwys yng Ngwynedd hawlio taliad untro o £200 gan yr Awdurdod Lleol er mwyn helpu i dalu eu biliau tanwydd. Mae hwn yn daliad ychwanegol i’r ad-daliad Bil Ynni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r Taliad Tanwydd Gaeaf sy’n cael ei roi fel arfer i bensiynwyr.
Golwg360Dim modd “ymddiried yn Llafur gydag arian cyhoeddus”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig
“Mae pob diweddariad ar y stori hon yn drewi, mae’r holl beth yn drewi,” meddai Andrew RT Davies #gwleidyddiaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2114738-modd-ymddiried-llafur-gydag-arian-cyhoeddus?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Dim modd “ymddiried yn Llafur gydag arian cyhoeddus”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig
Does dim modd “ymddiried yn Llafur gydag arian cyhoeddus”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig. Daw hyn ar ôl i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ddweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Fferm Gilestone, lleoliad Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi’i wneud gyda “brys y gellid ei osgoi” a “risg”.
Golwg360Cynghorwyr yn cwyno wrth y rheoleiddiwr cystadleuaeth yn dilyn pryderon tros Neuadd Dewi Sant
Mae cwmni AMG, sy’n bwriadu prynu’r neuadd, eisoes yn rhedeg dau leoliad cerddorol arall yn y brifddinas #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2114730-cynghorwyr-cwyno-wrth-rheoleiddiwr-cystadleuaeth?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cynghorwyr yn cwyno wrth y rheoleiddiwr cystadleuaeth yn dilyn pryderon tros Neuadd Dewi Sant
Mae cynghorwyr wedi anfon llythyr ar y cyd at y rheoleiddiwr cystadleuaeth yn sgil pryderon y gallai cais posib i brynu Neuadd Dewi Sant arwain at fonopoli ar leoliadau yng Nghaerdydd. Mae wyth o gynghorwyr Ceidwadol Cyngor Caerdydd wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i fynegi pryderon am gais gan AMG i brynu’r lleoliad cerddoriaeth clasurol, a hwnnw’n gwmni sy’n eiddo Live Nation ar y cyfan.
Golwg360Torcalon i Wrecsam – a dim gêm yn erbyn Spurs
Mae’r clwb wedi cael eu cyhuddo gan Sheffield United o ddangos diffyg parch yn dilyn sylwadau cyn y gêm gwpan
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/2114732-torcalon-wrecsam-erbyn-spurs?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Torcalon i Wrecsam – a dim gêm yn erbyn Spurs
Roedd torcalon neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 7) i dîm pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw golli yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Sheffield United, sydd wedi cyhuddo’r clwb yn y gogledd o ddangos diffyg parch.
Golwg360Galw am ddatganoli pwerau i’r Senedd gael gosod cyfraddau a bandiau treth
Byddai hynny’n helpu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, medd Plaid Cymru #gwleidyddiaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2114723-galw-ddatganoli-pwerau-gosod-cyfraddau-bandiau?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Galw am ddatganoli pwerau i’r Senedd gael gosod cyfraddau a bandiau treth
Dylai Cymru allu gosod ei chyfraddau a’i bandiau treth ei hun i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn ôl Plaid Cymru. Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 8), bydd Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi datganoli’r gallu i osod cyfraddau a bandiau Treth Incwm Cymru.
Golwg360Dadl ar borthladdoedd rhydd wrth i’r gystadleuaeth am gyllid ddirwyn i ben
Mae tri chais wedi’u cyflwyno erbyn hyn am gyllid gwerth £26m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig #gwleidyddiaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2114728-dadl-borthladdoedd-rhydd-wrth-gystadleuaeth-gyllid?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Dadl ar borthladdoedd rhydd wrth i’r gystadleuaeth am gyllid ddirwyn i ben
Fe fydd dadl yn cael ei chynnal ar borthladdoedd rhydd yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 8), wrth i’r gystadleuaeth am gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddirwyn i ben. Mae tri chais wedi’u cyflwyno hyd yn hyn am gyllid gwerth £26m gan Lywodraeth San Steffan, yn ogystal â gostyngiad trethi i fusnesau yn ardal y porthladdoedd rhydd.
Golwg360Joe Allen wedi ymddeol o gemau pêl-droed rhyngwladol
“Yn anffodus, oherwydd anafiadau daeth diwedd cyfnod ac mae’n amser i roi cyfle i’r genhedlaeth nesaf fwrw ymlaen”
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/2114714-allen-wedi-ymddeol-droed-rhyngwladol?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Joe Allen wedi ymddeol o gemau pêl-droed rhyngwladol
Mae Joe Allen, chwaraewr canol cae Cymru, wedi ymddeol o gemau pêl-droed rhyngwladol yn 32 oed. Chwaraeodd e 74 gwaith dros Gymru, gan helpu’r garfan i gymhwyso ar gyfer Ewro 2016 a 2020, a Chwpan y Byd y llynedd.
Golwg360Ymgynghoriad ar gynlluniau newydd ar gyfer uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae’r Cynigion Cynllunio Diwygiedig dan y chwyddwydr
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2114713-ymgynghoriad-uned-iechyd-meddwl-newydd-ysbyty-glan?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Ymgynghoriad ar gynlluniau newydd ar gyfer uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae pobol yn cael y cyfle i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ar gynlluniau ar gyfer Uned Iechyd Meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd. Maen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn symud ymlaen gyda chynigion ar gyfer yr uned newydd er mwyn darparu cyfleuster sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Golwg360‘Angen cydnabod fod llawer mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod chwaraeon yn gynhwysol’
“Fel Cymro Cymraeg a chwaraewr rygbi o gefndir lleiafrifol ethnig, dw i wedi profi rhagfarn a hiliaeth ar y cae chwarae,” meddai Lloyd Lewis #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2114695-angen-cydnabod-llawer-wneud-mwyn-sicrhau-chwaraeon?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Angen cydnabod fod llawer mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod chwaraeon yn gynhwysol’
Mae angen cydnabod fod angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod chwaraeon i bawb, beth bynnag fo’u cefndir, yn ôl y chwaraewr rygbi Lloyd Lewis. Bydd Lloyd Lewis, sydd wedi chwarae rygbi saith bob dros Gymru, yn cymryd rhan mewn sgwrs gyda’r Athro Laura McAllister, cyn-gapten tim pêl-droed Cymru a chyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru, i drafod cynwysoldeb menywod, y gymuned LHDTC+ a phobol o gefndiroedd lleiafrifol ethnig ym myd chwaraeon.
Golwg360“Beth wnaeth Lee Anderson i haeddu dyrchafiad?”
Liz Saville Roberts yn ymateb wrth i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ad-drefnu adrannau’r Llywodraeth yn San Steffan #gwleidyddiaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/gwleidyddiaeth/2114701-beth-wnaeth-anderson-haeddu-dyrchafiad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

“Beth wnaeth Lee Anderson i haeddu dyrchafiad?”
Mae Liz Saville Roberts wedi cwestiynu pam fod is-gadeirydd newydd y Blaid Geidwadol yn San Steffan yn haeddu dyrchafiad. Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dilyn penodiad Lee Anderson i’r swydd.
Golwg360