Madarch clustiau’r ysgaw (Auricularia auricula-judae), wedi’u casglu o’r goeden ysgaw farw yng ngardd fy mam. Ar ôl eu golchi, wna i eu sychu er mwyn mynd â nhw adre, ac wedyn eu had-hydradu ar gyfer coginio.

https://cy.wikipedia.org/wiki/Clustiau%27r_ysgaw

#sporespondence #madarch #BwydGwyllt

Patsyn braf madarch y torthau melyn (Hypholoma fasciculare / sulphur tuft) yn ein gardd dan y coed afalau. Ces i fach o banics pan gwelais i nhw gyntaf, gan feddwl mai ffwng mêl oedden nhw, sy'n gallu lladd coed, ac sydd wedi’u sbotio yn y pentre gerllaw.

Mae'r rhain yn ddiniwed, er yn wenwynog i ni, yn anffodus. Braf eu gweld, beth bynnag.

#madarch #mushrooms #mushtodon

Madarch newydd i fi, yn tyfu ar fôn coeden wrth ochr y ffordd rhwng Pentregât a Phontgarreg. Roedd yr ap Seek yn awgrymu Cyfrwy cennog (Polyporus squamosus), sy’n amlwg yn anghywir, ac wedyn Amanita’r gwybed (A. muscaria), sy’n bosibl, er bod y lliw yn anarferol.

Wedi eu gadael i dyfu mwy, gobeithio caf i gyfle i fynd yn ôl i edrych eto.

Unrhyw syniadau?

#madarch #mushtodon

“Mycoaesthetics”, Natalia Cecire a Samuel Solomon

Soniwyd am yr erthygl hon mewn adolygiad o gyfieithiad newydd nofel Olga Tokarczuk “The Empusium" yn yr LRB newydd, a ches i fy siomi ar yr ochr orau i weld ei bod ar gael am ddim ar wefan Prifysgol Chicago.

https://www.journals.uchicago.edu/doi/epdfplus/10.1086/730345

#madarch #mycoleg #OlgaTokarczuk

Madarch clustiau’r ysgaw (Auricularia auricula-judae), cyn ac ar ôl iddyn nhw cael eu hailhydradu ar gyfer rysait newydd yr wythnos.

Casglais i'r rhain yn y cwm bach, “Cwm Ceiliog” yn ôl rhai, sy'n arwain o Bontgarreg i Gapel y Wig, gyda rhai ohonyn nhw yn dod o waelod hen ardd Dolgoi Bach, y lle gafodd Cranogwen ei geni.

#bwyd #food #madarch #mushrooms #mushtodon

Fy ffrind Rosie wrthi’n casglu wystrys y coed rhywle yng nghyffiniau Caerdydd #Mushtodon #mushrooms #madarch (llun gan Chris, ei gŵr)
Strangers in the night, di dw di dw wwww di, fungus at first sight, di dw di dwwww di
#mushrooms #madarch not #Defaidodon for once 😊