Bues yn ormod o snob i dywyllu bar Miss Jones, Canton cyn hyn, ond hapus i weld dewis o IPA keg, am DDIM OND DWY BUNT y peint. Gyda chwrw casgen yn fwy prin yn Vikky P ganol wythnos, debyg mai yma dof i wylio pêl-droed ar y teledu. Mŵs Piws yn yr oergell. #pubs #tafarn #tafarndai #Caerdydd # #Canton #Treganna
Diwrnod arall o gymnasteg. Pen-y-bont tro 'ma. Crwydro a nôl coffi cyn gwylio'r cystadlu. Yn greulon rydym ar draws y ffordd i'r Coach, tafarn adnabyddus am ei chwrw, a 'Phrase of the week' #DysguCymraeg wrth y drws. #pubs #tafarndai #tafarn #bridgend
Mae Carpenters, Casnewydd yn dafarn gul a hir draddodiadol, efo dewis anhygoel o keg (gan gynnwys Guinness a Murphy's) a Bass a dau gwrw Felinfeol ar gasgen. Cwpan y Byd Criced y Merched ar bob sgrin bron, sy'n braf ei weld. £3.25 am beint blasus o Bass. #TafarnGerGorsaf #Pubs #Tafarn
Yn aberthu dros fy ngwlad eto drwy yfed Smooth yn y Clive, fanzone #Ewro2025 answyddogol Canton. #Caerdydd #pubs #tafarn
Pawb (blaw fi) eisiau yfed yn yr haul, felly dwi wedi bachu bwrdd yn y cysgod yng ngardd gwrw ddyrchafedig y Vaults, yr Amwythig. (Llun i ddilyn)
#TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #pubs #tafarndai #Tafarn
Peint 11:00am yn Station Tap newydd Caer a sniffer dogs yn mynd ar ôl llwyth o bobl yn yr orsaf ar y ffordd i'r rasys. Dechrau da. #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #tafarn #pubs
Suddodd fy nghalon pan welais bod mic wedi setlo fyny yn y dafarn, ond mae'r covers o America y 50au yn wych. Wrth gwrs, mae #cwrw yn helpu. #tafarn
Torri'r daith yn #Llwydlo. Tro cyntaf mewn #tafarn Joules. Mae'n werth ymweld â'r Rose and Crown am yr adeilad yn unig, ond roedd y Pale yn flasus ac yn rhesymol iawn o ran pris. #pubs #tafarndai

YESSS! Mae'r crinc o Swydd Efrog yma sy'n ceisio ymweld â phob #tafarn yn llyfr #GBG #Camra newydd fod i Forgannwg. Wastad yn joio darllen ei sylwadau ffraeth.

" On attempting to find the gents, I see a sign for 'Huw Rinals'. What's that Welsh for? I ponder, before realising 'ohhhh, Urinals, I get it!' " https://simeyeveritt.wixsite.com/brapa/post/brapa-glamorous-glamorgan-pub-knockout-trophy-part-1-4

BRAPA .... GLAMOROUS GLAMORGAN PUB KNOCKOUT TROPHY (Part 1/4)

22 pubs visited down in South Wales in early April to celebrate BRAPA's tenth birthday, and what a lovely young fellow he is becoming, all ready for big school next year, don't they grow up quickly?In a slightly different format, I'm going to use a random number generator to draw the pubs against each other, so 11 'fixtures', and based on my experience of the beer, staff and atmosphere, I'll try and pick a winner for each tie, use a dice if I can't decide, and then somehow, in part 4, try and wh

BRAPA

Ry ni wedi rhoi #Tafarn yr #iorwerth ar ein map!

Gweler https://openstreetmap.cymru/?h=53.2686908275487&ll=-4.474439620971681&ch=16&p=1&t=Tafarn%20yr%20Iorwerth

: Dim #TrafferthMewnTafarn !

Os hoffech chi weld enw #Cymraeg eich tafarn leol ar fap swyddogol arlein
#Llywodraeth #Cymru dewch i gyswllt os gwelwch yn dda!

Diolch i Richard Evans am yr awgrym.

Mapio Cymru

Rydym yn adeiladu map o Gymru gydag enwau lleoedd yn Gymraeg.

Mapio Cymru