Yn gweithio fy ffordd yn araf drwy dafarndai canolog yr Amwythig. Mae'r Dolphin yn chwe munud o fras gamu o'r orsaf. Mae'r Pale gan Joule's yn ffefryn cadarn gennyf. Johnny Cash, Massive Attack, Radiohead yw'r gerddoriaeth gefndir. £4.60 am beint. #tafarnGerGorsaf #tafarndai #pubs #yrAmwythig #Shrewsbury
Mae Carpenters, Casnewydd yn dafarn gul a hir draddodiadol, efo dewis anhygoel o keg (gan gynnwys Guinness a Murphy's) a Bass a dau gwrw Felinfeol ar gasgen. Cwpan y Byd Criced y Merched ar bob sgrin bron, sy'n braf ei weld. £3.25 am beint blasus o Bass. #TafarnGerGorsaf #Pubs #Tafarn
Pawb (blaw fi) eisiau yfed yn yr haul, felly dwi wedi bachu bwrdd yn y cysgod yng ngardd gwrw ddyrchafedig y Vaults, yr Amwythig. (Llun i ddilyn)
#TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #pubs #tafarndai #Tafarn
Peint 11:00am yn Station Tap newydd Caer a sniffer dogs yn mynd ar ôl llwyth o bobl yn yr orsaf ar y ffordd i'r rasys. Dechrau da. #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #tafarn #pubs
O'r traddodiadol i'r modern (o ran arddull mewn yr adeilad o leiaf.) Mae Tap Ludlow Brewery, #Llwydlo yn brysur ar bnawn Llun. Cwrw da a syndod o rhesymol eto. #tafarndai #TafarnGerGorsaf #pubs
Halibalw trenau yn golygu hanner cyflym o XXX Pale gan Three Tuns yn Castle Vaults #YrAmwythig. Digon mwyn i eistedd yn yr ardd gwrw ddyrchafedig. #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations
Heb dorri syched yn y Rhyl ers dros chwarter canrif. Pwy feddyliai byddai #tafarn mor lân, taclus a chroesawgar â'r Pen & Cob dafliad carreg o'r orsaf? #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations £3.00 am beint o mild #adolygiad #pubs #yRhyl
Llai o ymladd yn y William Morgan #Prestatyn ar nos Sul na ph'nawn Iau. £2.79 am siocled poeth-ish (byddaf yn gyrru nes mlaen) ond dewis da o gwrw (Cheshire Cat, Mŵs Piws x2, Hobgoblin a mwy) am tua £4.00 y peint. #TafarnGerGorsaf #tafarn #tafarndai #pubs #PubsNearStations #adolygiad
Am ddechrau twtio #TafarnGerGorsaf. British Lion (The Pig) yn #Crewe. Pawb yn gweiddi 'Bye' wrth imi adael er mond tua 20 munud bues yno. Hanner Speckled Hen an £2.00 #tafarn #tafarndai #pubs #PubsNearStations #adolygiad