Pawb (blaw fi) eisiau yfed yn yr haul, felly dwi wedi bachu bwrdd yn y cysgod yng ngardd gwrw ddyrchafedig y Vaults, yr Amwythig. (Llun i ddilyn)
#TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #pubs #tafarndai #Tafarn
Peint 11:00am yn Station Tap newydd Caer a sniffer dogs yn mynd ar ôl llwyth o bobl yn yr orsaf ar y ffordd i'r rasys. Dechrau da. #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #tafarn #pubs
Halibalw trenau yn golygu hanner cyflym o XXX Pale gan Three Tuns yn Castle Vaults #YrAmwythig. Digon mwyn i eistedd yn yr ardd gwrw ddyrchafedig. #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations
Heb dorri syched yn y Rhyl ers dros chwarter canrif. Pwy feddyliai byddai #tafarn mor lân, taclus a chroesawgar â'r Pen & Cob dafliad carreg o'r orsaf? #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations £3.00 am beint o mild #adolygiad #pubs #yRhyl
Llai o ymladd yn y William Morgan #Prestatyn ar nos Sul na ph'nawn Iau. £2.79 am siocled poeth-ish (byddaf yn gyrru nes mlaen) ond dewis da o gwrw (Cheshire Cat, Mŵs Piws x2, Hobgoblin a mwy) am tua £4.00 y peint. #TafarnGerGorsaf #tafarn #tafarndai #pubs #PubsNearStations #adolygiad
Am ddechrau twtio #TafarnGerGorsaf. British Lion (The Pig) yn #Crewe. Pawb yn gweiddi 'Bye' wrth imi adael er mond tua 20 munud bues yno. Hanner Speckled Hen an £2.00 #tafarn #tafarndai #pubs #PubsNearStations #adolygiad