Dwi am osgoi gwneud unrhyw 'hot 'takes' tro yma yn gêm #FfrCym #frawal, ond roedd yn felys gweld ein gôl cyntaf yn #Ewro2025 yn mynd i mewn, er gwaethaf ymdrechion VAR i ddifetha pob mwynhad.
Braf gweld 'FF MORGAN' ar gefn crys Ffion Morgan, yn parchu'r wyddor Gymraeg. Love the 16-bit style font on the Netherlands shirts. #walned #Ewro2025
gôl anhygoel #WalNed #Ewro2025
Yn aberthu dros fy ngwlad eto drwy yfed Smooth yn y Clive, fanzone #Ewro2025 answyddogol Canton. #Caerdydd #pubs #tafarn
25 munud cyntaf parchus i Gymru, mond wedi gorfod gwneud un arbediad (un da), ac wedi cael ambell groesiad i mewn. Dyma'r cyfle gorau am ganlyniad dwi'n teimlo. #walned #Ewro2025
@davidoclubb #WALNED yw'r un amlwg. Beth am ddefnyddio #Ewro2025 ar gyfer pob gêm ar gyfer tŵts Cymraeg?

Dyma greu edefyn am ddigwyddiau #Ewro2025

Gan ddechrau gyda'r gêm agoriadol
Cymru vs Yr Iseldiroedd

5.7.25
GŴYL CYMRU FESTIVAL
Clwb y Bont, Pontypridd

2pm Louise and the Feathers (cerddoriaeth fyw)
5pm Cic gyntaf
Bwrdd Foosball ar gael trwy'r dydd

#ClwbyBont #Pontypridd #Cymru @peldroed

Eisiau rhannu profiad #Ewro2025 gyda fy merch ieuengaf 12 oed, sy'n hoff iawn o chwarae'r gamp, ond sydd ddim mor cîn ar eistedd lawr a gwylio gêm 90 munud ar y bocs. Alla i ddychmygu hi'n diflannu ar ôl 10 munud a fi'n diawlio peidio mynd i'r dafarn! #Euro2025