Dyma 'brain dump' - chwilio am syniadau ar gyfer fy hobis a'r blog personol!
#technoleg #cyfathrebu #blogio @carlmorris @nic @davidoclubb
Dyma 'brain dump' - chwilio am syniadau ar gyfer fy hobis a'r blog personol!
#technoleg #cyfathrebu #blogio @carlmorris @nic @davidoclubb
Beth ddylwn i wneud gyda fy 'landline' i?
Mae'r cwmni presennol yn rhoi'r gorau iddyn nhw. Dwi'n credu hoffwn i gadw e, gan bod hi'n haws cyrraedd y teulu adre os mae mobeils nhw i gyd ar 'distaw'!
Wedi ymchwilio gwasanaethau VOIP yn y DU ond prin iawn mae'r adolygiadau.
Mae’n rhaid i ieithoedd lleiafrifol ofalu i beidio â cholli’u lliw yng ngafael deallusrwydd artiffisial (AI), yn ôl dau o’r rheiny sy’n arbenigo ym mherthynas Cymreictod â thechnoleg. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd eithriadol wedi bod yng ngallu teclynnau AI, megis ChatGPT, i greu deunydd yn yr iaith Gymraeg.
Adding to the conversations I’ve seen here regarding Welsh and technology, a recent blog post on things that Welsh Government has been doing over the last five years to build support: https://digitalanddata.blog.gov.wales/2024/02/21/celebrating-the-achievements-of-the-welsh-language-technology-action-plan-2018-2024/
The action plan update itself has a long list of work done and explains what some of the tech is. An important principle is that all the work funded should be permissively licensed for all to use.
By Indeg, Cymraeg 2050 Team Darllenwch y dudalen hon yn Gymraeg When we published the Welsh Language Technology Action Plan in 2018, our aim was to create technological advances that would enable u…
Diolch am y croeso - mae podlediad hyna'r Gymraeg™ yn falch o fod yma! #introduction
Da ni'n bodlediad comedi longform am tech a'r cyfryngau, a da ni di bod yn mynd ers 2010. So basically, ni'n boomers pods Cymraeg 😅
Ni'n trafod tech, a chael laff yn dissectio ffilm wael da ni wedi gwylio ar ddiwedd pob mis. Yna mae'r afterparty lle da ni'n awgrymu pethau i'w gwylio, darllen neu chwarae - tri podcast mewn un!
Unrhywun yn cofio catalog 'Innovations' ers talwm? Llawn o gajets apelgar ond rwtsh, pethau byddai'n cael eu taflu o'r neilltu ar ôl wythnos neu fis.
Y rheswm daeth e i'r cof yw'r hysbysebion sy'n bla ar Instagram o'r un math o declynnau 'rhaid ei cael'.
Mae bron yn amhosib defnyddio insta dyddiau hyn ond rwy'n ymweld unwaith y diwrnod yn bennaf i wylio anturiaethau Gillian Elisa. #technoleg
Amser i fi wneud cyflwyniad go iawn!
Rwy'n byw yn #Treganna #Caerdydd ac dwi'n hoffi #technoleg, #natur, #coginio, #radio ac #annibyniaeth.
O #Llandrindod dwi'n dod yn wreiddiol. Dwi wedi gweithio fel newyddiadurwr teledu (Newyddion ITV Cymru), Pennaeth Cyfathrebu (WWF Cymru) ac ers 2 flynedd dwi'n Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd.
Rwy'n cyhoeddi podlediad misol o'r enw Hefyd, lle dwi'n sgwrsio gyda pobl diddorol sy wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.
Dyma fy ngwefan: https://richardnosworthy.cymru/