“AI yn troi’r Gymraeg yn ffacsimili o bob iaith arall”
Mae’n rhaid i ieithoedd lleiafrifol ofalu i beidio â cholli’u lliw yng ngafael deallusrwydd artiffisial (AI), yn ôl dau o’r rheiny sy’n arbenigo ym mherthynas Cymreictod â thechnoleg. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd eithriadol wedi bod yng ngallu teclynnau AI, megis ChatGPT, i greu deunydd yn yr iaith Gymraeg.