Unrhywun yn cofio catalog 'Innovations' ers talwm? Llawn o gajets apelgar ond rwtsh, pethau byddai'n cael eu taflu o'r neilltu ar ôl wythnos neu fis.
Y rheswm daeth e i'r cof yw'r hysbysebion sy'n bla ar Instagram o'r un math o declynnau 'rhaid ei cael'.
Mae bron yn amhosib defnyddio insta dyddiau hyn ond rwy'n ymweld unwaith y diwrnod yn bennaf i wylio anturiaethau Gillian Elisa. #technoleg