Enwebiad Gwobrau Pantomeim y Deyrnas Unedig ar gyfer hen wreigan Theatr y Lyric

“Mae’r Lyric wedi creu traddodiad pantomeim Nadolig blynyddol gyda gwerthoedd cynhyrchu a pherfformiadau gwych” #celfyddydau #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2193472-enwebiad-gwobrau-pantomeim-deyrnas-unedig-gyfer?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Enwebiad Gwobrau Pantomeim y Deyrnas Unedig ar gyfer hen wreigan Theatr y Lyric

Mae hen wreigan (Dame) pantomeimiau Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin wedi’i henwebu ar gyfer un o wobrau pantomeim mwyaf y Deyrnas Unedig. Mae Steve Elias – actor, cyfarwyddwr a choreograffydd o Gaerfyrddin – wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yr hen wreigan (Dame) orau gan Gymdeithas Pantomeim y Deyrnas Unedig.

Golwg360

Mae seicig, ysbryd sy'n hoff o ffitrwydd, a heddwas yn ymchwilio i farwolaeth, bywyd, a phopeth rhyngddynt yn y gomedi ddwyieithog hon gan y cwmni theatr o Gymru, #TRIONGL.

Mae'r cynhyrchiad yn hygyrch i ddysgwyr Cymraeg, pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg a chynulleidfaoedd Byddar gyda'r defnydd o isdeitlau ym mhob lleoliad.

#Theatr Volcano, Nos Fercher, 11 Mawrth, 7.30
https://www.ticketsource.co.uk/volcano/is-there-anybody-there/p-olzmky

#MyndMas #GoingOut #theatre #Cymraeg #DysguCymraeg #Abertawe #Swansea

Cynhyrchiad cyntaf y Welsh National Theatre yn “foment hanesyddol”

Dywed yr actores Nia Roberst, sy’n chwarae Mrs Gibbs yn Our Town, bod “rhywbeth mawr yn digwydd” ym myd y celfyddydau yng Nghymru #theatr

https://golwg.360.cymru/newyddion/2191485-roberts-cynhyrchiad-cyntaf-welsh-national-theatre?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cynhyrchiad cyntaf y Welsh National Theatre yn “foment hanesyddol”

Mae cynhyrchiad cyntaf y Welsh National Theatre wedi bod yn “foment hanesyddol” i fyd celfyddydau Cymru, medd un o’r actorion. Yn ôl yr actores Nia Roberts, sy’n adnabyddus am ei rhannau yn Pren ar y Bryn a Solomon & Gaenor, mae teithio gyda’r sioe Our Town wedi bod yn brofiad “sbesial” hyd yn hyn.

Golwg360

Jeremi Cockram a Holly Carpenter fydd sêr fersiwn Gymraeg o ‘Educating Rita’

Bydd ‘Addysgu Rita’ yn ymweld ag amryw o leoliadau yng Nghymru ym mis Mai #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/theatr/2190689-jeremi-cockram-holly-carpenter-fydd-cynhyrchiad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Jeremi Cockram a Holly Carpenter fydd sêr fersiwn Gymraeg o ‘Educating Rita’

Yr actores Holly Carpenter o Bort Talbot a Jeremi Cockram, seren Pobol y Cwm, fydd yn ymgymryd â rolau eiconig Rita a Frank yn Addysgu Rita, y fersiwn iaith Gymraeg gyntaf o gomedi adnabyddus Willy Russell, Educating Rita.

Golwg360

Nia Ben Aur yn ysbrydoli cwmni theatr newydd yn y cymoedd

Fe fydd cwmni theatr newydd sbon, Theatr Tafod, yn cael ei agor ym Mhontypridd ar gyfer pobol ifanc rhwng 16-25 oed #theatr

https://golwg.360.cymru/newyddion/2189650-a-4?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Nia Ben Aur yn ysbrydoli cwmni theatr newydd yn y cymoedd

Fe fydd cwmni theatr newydd sbon, Theatr Tafod, yn cael ei agor ym Mhontypridd ar gyfer pobol ifanc rhwng 16-25 oed o Rhondda Cynon Taf o’r enw Theatr Tafod. Bydd y cyfan yn dechrau gyda dau weithdy, ar Chwefror 14 a 21.

Golwg360

Actor am redeg 200 milltir er mwyn codi arian at Theatr y Sherman

Mae’r actor yn anelu at godi £50,000 i raglen ymgysylltu’r theatr yng Nghaerdydd #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/theatr/2188879-actor-redeg-milltir-mwyn-codi-arian-theatr-sherman?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Actor am redeg 200 milltir er mwyn codi arian at Theatr y Sherman

Mae un o gyn-berfformwyr Theatr y Sherman yng Nghaerdydd wedi dewis rhedeg uwchfarathon 200 milltir ar draws y de rhwng Ebrill 15-20 er mwyn codi arian ar gyfer rhaglen Ymgysylltu Creadigol y theatr. Bydd Mike Morgan yn rhedeg y Wild Horse 200 o Gas-gwent ar hyd Clawdd Offa, gan groesi Ffordd y Bannau cyn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru a chyrraedd y llinell derfyn ym Mhen Pyrod.

Golwg360

Drama radio newydd yn cyflwyno’r profiad o fagu mab ag awtistiaeth

Cafodd ‘Yr Oriau Mân’ ei darlledu ar Radio Cymru ym mis Rhagfyr #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/theatr/2188769-drama-radio-newydd-gruffudd-owen-tynnu-brofiad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Drama radio newydd yn cyflwyno’r profiad o fagu mab ag awtistiaeth

Mae’r awdur Gruffudd Owen, oedd yn Fardd Plant Cymru rhwng 2019 a 2020, yn dweud mai profiad ‘agos at yr asgwrn’ oedd ysgrifennu drama newydd yn adlewyrchu ar ei brofiadau yn magu plentyn ag awtistiaeth.

Golwg360

Mwynheais brynhawn bendigedig yn #Abertawe heddiw.

Gwnes i wylio A Child's #Christmas / A Christmas Story yn #Theatr y Grand am amser cinio, ac wedyn es i'n syth i Theatr Volcano i wylio Silent Night Raging Eve.
Roedd y ddwy sioe'n wahanol iawn ond yn adderchog!

Diolch yn fawr a llongyfarchiafau #LighthouseTheatre a #JoannaSimpkins 🥰

#Swansea #Theatre #LiveTheatre

Cyfieithu ‘Educating Rita’ “yn gyfle i ddenu cynulleiddfa newydd i’r theatr”

Gwawr Loader, cyfieithydd y ddrama, sy’n trafod pwysigrwydd ieithwedd ac arddull ym myd y ddrama #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/theatr/2187680-cyfieithu-educating-rita-gyfle-ddenu-cynulleiddfa?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cyfieithu ‘Educating Rita’ “yn gyfle i ddenu cynulleiddfa newydd i’r theatr”

Mae cael trosi Educating Rita i’r Gymraeg am y tro cyntaf yn gyfle i daflu goleuni ar wahaniaethau dosbarth y Gymru gyfoes, yn ôl y cyfieithydd a dramodydd Gwawr Loader. Mae’r comedi, gafodd ei hysgrifennu’n wreiddiol gan Willy Russell yn 1980, yn trafod hanes menyw dosbarth gweithiol sy’n trin gwallt ac sy’n dewis mynychu cyrsiau Llenyddiaeth y Brifysgol Agored.

Golwg360

Lansio drama gerdd fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd

Mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Sain Ffagan, ymunodd yr actor Matthew Rhys â’r gantores Caryl Parry Jones i lansio’r ddrama gerdd ‘Calon’ #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/theatr/2186451-lansio-drama-gerdd-fwyaf-cwmni-theatr-urdd-newydd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Lansio drama gerdd fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 20), mae Cwmni Theatr yr Urdd wedi lansio drama gerdd newydd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru. Mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Sain Ffagan, fe ymunodd yr actor adnabyddus Matthew Rhys â’r gantores a’r gantores-gyfansoddwraig Caryl Parry Jones i lansio’r ddrama gerdd, Calon.

Golwg360