Wneud risotto madarch heno, rysait Nisha Vora, sy’n galw am 500g o fadarch, ond ar y ffordd i’r siop, wrth ymweld â’m pyrth #ingress, ffeindiais i dyfiant ffres hyfryd cyfrwy cennog (Polyporus squamosus / dryad’s saddle) wrth fynwent Capel y Wig.

Tro cyntaf mas o’r tŷ ers dydd Llun, ar ôl wythnos o annwyd. Anrheg bach yr hydref ar y lôn yn ôl o Gapel y Wig.
Rhywun yn nabod y rhain? #mushtodon #madarchodon
Rhywbeth pert yng nghysgod y clawdd yn ein gardd. Ddim 100%, ond dw i'n meddwl efallai taw “Eirin a chwstard" (Tricholomopsis rutilans) yw e. Ddim eisiau ei bigo gan taw dim ond un fadarchen sydd, a dw i ddim wedi’i gweld o'r blaen yn yr ardd.
Madarch newydd yn yr ardd:
Cap inc gloyw (Coprinellus micaceus) sy siŵr o fod yn tyfu ar hen wreiddiau coeden celyn oedd yn yr ardd. Bwytadwy, ond ddim yn werth y trafferth, gan fy mod i wedi wneud swper eisoes. Fallai yfory.