..ac felly dyma ddod ar draws Ship, Rotherhithe. Mae'n dafarn 'ystad dai' ond heb y to fflat a gyda dau gwrw gasgen. Wrth gwrs, roeddwn dan deimlad y cwrw, ond gwirioniais gyda'r lle. Tafarn un ystafell mawr efo bar siâp U, landlady Gwyddelig hen fasiwn (er r'un oed a fi), cwsmeriaid dosbarth gweithiol llawn rhegi ac yn gwrth-hiliol gwrth-imperilaidd rhonc yn ôl eu sgwrs...






