..ac felly dyma ddod ar draws Ship, Rotherhithe. Mae'n dafarn 'ystad dai' ond heb y to fflat a gyda dau gwrw gasgen. Wrth gwrs, roeddwn dan deimlad y cwrw, ond gwirioniais gyda'r lle. Tafarn un ystafell mawr efo bar siâp U, landlady Gwyddelig hen fasiwn (er r'un oed a fi), cwsmeriaid dosbarth gweithiol llawn rhegi ac yn gwrth-hiliol gwrth-imperilaidd rhonc yn ôl eu sgwrs...

#pubs #tafarndai #llundain

Es i ymlaen i Anspach a Hobday, lle mae'r staff yn fwy serchus a ddim yn ploncio'r card reader o'ch blaen ac yna'ch anwybyddu (er dwi'n hanner parchu hynny a ddim yn licio gorseboni). Mae eu Black yn nitro stout efo blas - rhywbeth gallai Guixnesx ddysgu ohono. #pubs #tafarndai #llundain.
Yn Mash Paddle Brewery ar ddechrau fy crôl haneri ar y Bermondsey Mile. Mae'n debyg gwna'i lwyddo canllath. Ro'n eisiau mynd i'r Kernal, ond roedd yn llawn dop a braidd yn slic. Fan'ma yn siwtio fi'n well, er keg yn unig. Lagyr Fienna gan Thornbridge. #cwrw #pubs #tafarndai #llundain
Dechrau trwstan i fy 24-ish awr yn #Llundain. Sgwrs ffôn hir efo mam ar ôl iddi gael llythyr cas gan dyn treth, wedyn gadael fy het dathlu canmlwyddiant Dáil Éireann yn y Bear ger Paddington. Ond bobl clên fan'no yn ei warchod.
Dwi'n bwriadu mynd i Lundain mewn pythefnos (gweld arddangosfa 'Emergency Exits' a gwylio gêm yn Plough Lane yw'r nod) a digwydd i mi weld @fridaynightdinners yn cael ei hybu gan @derickr. Alla i ddim credu cyn lleied sy'n dilyn cyfrif o'r fath am fwyta allan yn y brifddinas imperialaidd! #Llundain #London https://www.iwm.org.uk/visual-story-emergency-exits
Visual story: Emergency Exits

Emergency Exits: The Fight for Independence in Malaya, Kenya and Cyprus is open at IWM London until 29 March 2026. This visual story will help you prepare and plan for your visit to the exhibition.

Imperial War Museums

Golygfeydd ysblennydd o #Llundain ar fryn #Greenwich

#London

Ymlacio yn #Greenwich #Llundain

Pan dwi'n ymweld â'r brifddinas ymerodrol, dwi angen bach o wyrddni a heddwch.

Roedd y cwch yma yn rhy brysur!

#London