Ar Γ΄l ysbaid o dywydd braf mae hi'n bwrw glaw heddiw. Mae hi'n ddiflas hefyd. Dw i ddim yn hoffi diwrnodau fel hyn. Mi ges i newyddion da - mi ges i lythyr oddi wrth Sgrinio Coluddion Cymru i ddeud bod y canlyniad o'r prawf yn iawn.
Ar Γ΄l ysbaid o dywydd braf mae hi'n bwrw glaw heddiw. Mae hi'n ddiflas hefyd. Dw i ddim yn hoffi diwrnodau fel hyn. Mi ges i newyddion da - mi ges i lythyr oddi wrth Sgrinio Coluddion Cymru i ddeud bod y canlyniad o'r prawf yn iawn.
Mi aethon ni i'r cymdogion neithiwr. Mi gaethon ni noson ddymunol. Heddiw mae'r tywydd yn oerach. Mi wnes i drio gorffen gwaith dw i 'di dechrau ddoe, ond doedd gen i ddim y pethau i wneud y gwaith. Rhaid i mi fynd i Toolstation neu Screwfix. Mi gerddon ni i fyny y cwm efo'r ci. Mae hi'n (gast ydy hi) hen rwan, felly mi wnes i gario hi mewn sach gefn gi am dipyn. https://pecute.net/collections/pet-backpack
Heno mi es i i gyfarfod yn yr ysgol i glywed am Lais Digidol. Cyfarfod bach oedd o, dim ond y cyflwynydd (o BT), fi, a phedwar arall. Dan ni'n gael llawr o doriadau pΕ΅er yn yr ardal hon, felly mae rhai'n poeni be' sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol pan mae'r linell ffΓ΄n angen trydan i weithio. Weithiau, dan ni'n colli y signal ffΓ΄n symdol ar yr un pryd. A dweud y gwir doedd y lleill ddim yn hapus efo'r atebion.
Unwaith eto, roedd hi'n braf iawn heddiw. Mi fuon ni'n brysur yn yr ardd ac o gwmpas y tΕ·. Mi ffonies i'r ysbyty i wirio mi gaethon nhw'r atgyfeiriad o'r optegydd am fy mhilenni. Mae hi'n iawn a dw i'n ar y restr aros. Heno, dw i 'di gwneud fy ngwaith cartref. Mi fyddwn ni'n brysur yn yr ardd yfory.
Mae hi'n braf heddiw, felly mi aethon ni i bentref bach ar lan y mΓ΄r a mi gerddon ni ar y traeth efo'r ci. Mae hi'n (gast ydy hi) hoffi rholio o gmwpas ar y tywod. Mi gaethon ni banaid o'r fflasg. Wedyn, i aethon ni siopa yn Aldi a B&M. Yn y prynhawn mi weithion ni yn yr ardd.
Mae hi'n sych heddiw. Roedd rhaid i mi adael y dosbarth Cymraeg ychydig yn gynnar o ganlyniad i'r addurnwr gyrradedd. Mi ddΓ΄th o i edrych ar y pren allanol. Mae rhannau yn uchel felly mae o angen sgaffald. Mi wnes i ffonio y sgaffaldiwr a mi ddoith o wythnos nesaf.
Mi gaeth y pwll glo ei enw ar Γ΄l y teulu cyfoethog pwy oedd yn byw ym Modnant yng Ngogledd Cymru. Os dach chi'n mynd i'r Gerddi Bodnant, cofiwch Fred a glowyr eraill am funud.
2/2
Mi wnes i bostio ddoe am ffotograffau o filwyr o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ella, Fred Davies ydy un ohonyn nhw. Os dw i'n gywir, mae hi'n stori drist. Mi wnaeth o weithio yn y pwll glo Pochin, yn y Glyn Sirhywi. Haliwr wyneb oedd o - mae gen i ffotograffau ohono fo efo ceffyl. Mi gaeth o ei ddal o rhwng dau dram o lo. Mi fuodd o farw ar yr ail ar hugain mis Ebrill, 1952, 52 oed, yn yr ysbyty Tredegar.
1/2
Heddiw, mi wnes i adolygu hen ffotograffau o fy nheulu. Dw i'n trio adnabod y dynion yn y wisg unffurf o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Maen nhw'n gwisgo bathodynnau cap "South Wales Borderers". Mae hi'n bosib i ofyn am chwiliad o'r cofnodion, ond rhaid i chi dalu wyth ar ddeugain punt. Dw i ddim yn siΕ΅r os dw i'n hapus i dalu tua chant o bunnau.
Roedd hi'n braf heddiw, felly mi wnes i weithio yn yr ardd. Mi wnes i godi pren ceirios. Roedd hi'n sal efo cancr bacteriol. Mae hi'n drist i golli'r goeden, ond roedd 'na ormod o haint i reoli efo tocio.