Unwaith eto, mi wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau camgymeriad mawr. Mi gaeth fy ngwraig lythyr gynnyn nhw i ddeud bod hi'n mynd i gael ei phensiwn ym 1899. Ia, mil wyth naw naw. Sut maen nhw'n medru anfon llythyrau efo camgymeriadau fel 'na? Dw i'n dallt bod nhw wedi anfon llawer o llythyrau efo'r un camgymeriad.
Mi ddôth fy nheulu o Dde Cymru, ond mi ges i fy ngeni yn Lloegr. Dw i'n byw yng Ngogledd Cymru rwan a dw i'n trio dysgu'r iaith. Felly, mi fydd 'na gamgymeridau yn fy Nghymraeg. Hefyd, dw i'n defnyddio'r iaith maen nhw'n siarad yn y Gogledd ("ydy" dim "yw", "allan" dim "mas", "llefrith" dim "llaeth", "rwan" dim "nawr") a dw i'n defnyddio'r iaith anffurfiol.
Dw i'n defnyddio Linux.