Mi aethon ni i'r cymdogion neithiwr. Mi gaethon ni noson ddymunol. Heddiw mae'r tywydd yn oerach. Mi wnes i drio gorffen gwaith dw i 'di dechrau ddoe, ond doedd gen i ddim y pethau i wneud y gwaith. Rhaid i mi fynd i Toolstation neu Screwfix. Mi gerddon ni i fyny y cwm efo'r ci. Mae hi'n (gast ydy hi) hen rwan, felly mi wnes i gario hi mewn sach gefn gi am dipyn. https://pecute.net/collections/pet-backpack
