Clybiau chwaraeon yn “hanfodol” er mwyn cadw’r Gymraeg yn fyw yng Ngwynedd
“Mae’r bel yn gwneud y gwaith,” medd Menter Iaith Gwynedd, wrth lansio canllawiau newydd ar y Gymraeg mewn clybiau llawr gwlad #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2191197-clybiau-chwaraeon-hanfodol-mwyn-cadw-gymraeg?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Clybiau chwaraeon yn “hanfodol” er mwyn cadw’r Gymraeg yn fyw yng Ngwynedd
Mae’n hanfodol cynnal gofodau uniaith Gymraeg lle mae defnydd yr iaith yn hwylus ac yn naturiol, yn ôl Menter Iaith Gwynedd. Daw eu sylwadau wrth iddyn nhw lansio pecyn newydd yn amlinellu canllawiau ieithyddol penodol i glybiau chwaraeon y sir.
Golwg360
Jess Fishlock yw rhedwr dirgel Rasys Nos Galan
Jess Fishlock yw rhedwr dirgel Rasys Nos Galan eleni. Bydd cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru’n cludo ffagl arbennig i ganol tref Aberpennar i ddechrau’r Rasys yn swyddogol. Daw hyn ar ôl iddi ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol yn ddiweddar.
Golwg360
Cwis Mawr y Flwyddyn: Rownd 6
Dros y dyddiau nesaf, bydd golwg360 yn cyhoeddi Cwis y Flwyddyn fesul rownd. Bydd chwech rownd i gyd, ac mae’r rownd hon yn canolbwyntio ar chwaraeon. Rhowch gynnig arni, ac os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr, rhowch wybod i ni sawl cwestiwn gawsoch chi’n gywir!
Golwg360Crys newydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn nodi partneriaeth â phrifysgol y dref
Mae’n ffrwyth partneriaeth tair blynedd newydd rhwng y Clwb a Phrifysgol Aberystwyth #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2188269-crys-newydd-clwb-droed-tref-aberystwyth-nodi?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Crys newydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn nodi partneriaeth â phrifysgol y dref
Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wedi datgelu’i grys newydd mewn partneriaeth â’r coleg ger y lli. Mae’r Clwb a Phrifysgol Aberystwyth wedi llofnodi cytundeb tair blynedd newydd mewn meysydd gan gynnwys gwyddorau chwaraeon a hybu cyfleoedd i’r gymuned leol.
Golwg360Cymuned ar ddwy olwyn yn Ne Cymru drwy raglen beicio Breeze ar gyfer merched
Pwrpas y cynllun ydy creu gofod diogel a chefnogol ar gyfer merched sy’n seiclo yn Ne Cymru #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2188160-cymuned-ddwy-olwyn-cymru-drwy-raglen-beicio-breeze?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cymuned ar ddwy olwyn yn Ne Cymru drwy raglen beicio Breeze ar gyfer merched
Mae’r rhaglen seiclo Breeze wedi trawsnewid y ffordd mae cannoedd o ferched yn mynd ati i deithio ar gefn beic. Pwrpas y cynllun ydy creu gofod diogel a chefnogol er mwyn magu hyder merched sy’n seiclo drwy gynnig teithiau grŵp am ddim wedi eu harwain gan arweinwyr gwirfoddol sydd wedi cael eu hyfforddi.
Golwg360Brett Johns yn cyhoeddi ei ymddeoliad mewn cyfweliad arbennig gydag S4C
Mae’r cyfweliad yn trafod ei ymddeoliad a’i yrfa dros ddegawd o hyd wrth iddo yntau a’i wraig baratoi i groesawu eu hail blentyn #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2187830-brett-johns-cyhoeddi-ymddeoliad-mewn-cyfweliad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Brett Johns yn cyhoeddi ei ymddeoliad mewn cyfweliad arbennig gydag S4C
Mae’r ymladdwr Brett Johns wedi datgelu ar lwyfannau digidol S4C ei fod yn ymddeol o’r gamp MMA. Gwnaeth y cyhoeddiad yn dilyn ei ornest olaf nos Sadwrn (Rhagfyr 13) wrth iddo wynebu Nikolay “Slick Nick” Grozdev o Moldofa/Iwerddon i ennill teitl Pwysau Plu’r Byd Way of the Warrior (WOW) ym Madrid.
Golwg360Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2025 wedi cael ei gyhoeddi
Enillodd y pencampwr Paralympaidd set gyflawn o deitlau mawr yn 2025, gan gynnwys tair medal aur #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2187809-personoliaeth-chwaraeon-flwyddyn-cymru-2025-wedi?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2025 wedi cael ei gyhoeddi
Mae Ben Pritchard o’r Mwmbwls ger Abertawe wedi’i ddewis fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2025. Enillodd y pencampwr Paralympaidd 33 oed set gyflawn o deitlau mawr yn 2025, gan gynnwys coron Ewrop a’r byd a thair medal aur.
Golwg360Cymdeithasau Pêl-droed Prydain wedi cyflwyno cynnig swyddogol i groesawu Cwpan y Byd FIFA Merched yn 2035
Mae’r cynnig yn cynnwys 22 stadiwm posib ar draws Prydain, a thri ohonyn nhw yng Nghymru #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2186892-cymdeithasau-droed-prydain-wedi-cyflwyno-cynnig?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cymdeithasau Pêl-droed Prydain wedi cyflwyno cynnig swyddogol i groesawu Cwpan y Byd FIFA Merched yn 2035
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ogystal â Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, Iwerddon a’r Alban wedi cyflwyno cynnig ar y cyd ar gyfer croesawu gornest Cwpan y Byd FIFA Merched yn 2035. Dyma fyddai’r digwyddiad un math o chwaraeon mwyaf erioed i’w gynnal ym Mhrydain, a’r ornest Cwpan y Byd FIFA cyntaf i gael ei chynnal yma ers 1966.
Golwg360
#FelMerch: Codi llais, codi hyder
Daeth dros 250 o ferched ynghyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Dachwedd 13 ar gyfer cynhadledd #FelMerch yr Urdd. Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, mai bwriad y diwrnod oedd “ysbrydoli, ymbweru, a rhoi llais i ferched ifainc”.
Golwg360Cynnal trydedd Gynhadledd Chwaraeon #FelMerch yr Urdd
Bydd athletwyr, cyflwynwyr ac arweinwyr benywaidd yn cyfarfod yn Stadiwm Dinas Caerdydd i gynnig sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio #chwaraeon
https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2185984-cynnal-trydedd-gynhadledd-chwaraeon-felmerch-urdd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cynnal trydedd Gynhadledd Chwaraeon #FelMerch yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnal ei thrydedd Gynhadledd Chwaraeon #FelMerch heddiw (dydd Iau, Tachwedd 13), gan groesawu 250 o fenywod ifainc ar draws Cymru i’w hysbrydoli a’u cefnogi, ac i ffynnu drwy gyfrwng chwaraeon.
Golwg360