Martha yn canu am lygod mawr yn priodi

“Rwy’n hoffi ysgrifennu caneuon doniol. Er enghraifft, mae fy nghân ‘Rat Wedding’ am rats yn fy nhŷ i!” #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2194749-martha-canu-lygod-mawr-priodi?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Martha yn canu am lygod mawr yn priodi

Mae cantores a chyfansoddwraig o Gaerdydd sy’n canu mewn llais hyfryd o hiraethus am y llygod mawr yn nho ei thŷ, ymhlith yr artistiaid sydd wedi elwa o Gronfa Lansio Gorwelion eleni. Bwriad Martha O’Brien yw defnyddio’r cyllid i dalu am recordio a rhyddhau ei halbwm gyntaf yn dilyn llwyddiant ei EP gyntaf, Caution, Horses! yn 2024.

Golwg360

Felly, prynais chwaraewr recordiau ciwt ar eBay! Ond does dim #recordiau gyda fi ar hyn o bryd.
Beth yw'r recordiau Cymraeg hanfodol dylwn i fod yn edrych allan amdanynt? Hen neu newydd.

#cerddoriaeth

Y bêl yn rowlio i lanciau Lafant

“Roedd Llwyfan y Maes llynedd yn dda iawn ac rydym ni wedi bod yng Nghlwb Ifor Bach ddwywaith erbyn hyn” #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2194349-rowlio-lanciau-lafant?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Y bêl yn rowlio i lanciau Lafant

Ychydig dros flwyddyn ers ffurfio, mae’r band Lafant o ogledd Sir Benfro wedi rhyddhau eu halbwm gyntaf, Segurdod ar ôl llwyddiant eu EP Y Fodrwy a’u sengl ddwbl ‘Eira Gwyn/Borthroc’ a ryddhawyd llynedd.

Golwg360
Y Morgen

Mari Mathias · Y Morgen · Song · 2026

Spotify

Y Bandana yn ailffurfio ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las

Mae’r band yn ôl at ei gilydd wedi saib o ddegawd #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2194361-bandana-ailffurfio-gyfer-eisteddfod-garreg?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Y Bandana yn ailffurfio ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Y Bandana yn ailffurfio ar gyfer gig arbennig fis Awst. Dyma fydd eu perfformiad cyntaf yn yr Eisteddfod ers 2016. Bydd y band yn cloi arlwy Llwyfan y Maes ar nos Wener, Awst 7, ar gaeau Llantwd, dafliad carreg o Aberteifi, yn Eisteddfod y Garreg Las.

Golwg360

Gwnaethon ni wylio'r #ffilm Marianne Faithfull - #BrokenEnglish - y prynhawn 'ma.
Roedd yn wych!
Mwynheais bob munud ac dygais lawer am ei bywyd hi hefyd.

Nawr, dw i'n teimlo'n demtasiwn i grwydro i lawr i Tangled Parrot yfory i weld oes ganddyn nhw unrhwy un o'i halbymau hi!

#cerddoriaeth #film #music #MarianneFaithfull

Pennod newydd i Sage Todz

Fe fydd Sage yn perfformio mewn showcase yn ystafell Inidigo yr O2 yn Llundain ym mis Mai – sy’n dipyn o bluen yn ei het #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2193906-pennod-newydd-sage-todz?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Pennod newydd i Sage Todz

Mae gan y rapiwr adnabyddus gerddoriaeth newydd, band newydd a swydd newydd, fel yr eglura Joshua Romain o Academi Newyddiadura Golwg… Mae llawer o ddatblygiadau ar hyn o’r bryd yng ngyrfa Sage Todz, yr artist arloesol sydd yn gwthio ffiniau’r sîn hip-hop Cymraeg.

Golwg360

Cyhoeddi ‘Cwmwl Tystion III’, rhan olaf trioleg jazz arloesol

Mae Mared Williams ac Eadyth Crawford yn ymuno â cherddorion blaenllaw sy’n cynnwys Melvin Gibbs a Nguyên Lê ar gyfer rhan ola’r prosiect #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2193840-cyhoeddi-cwmwl-tystion-rhan-olaf-trioleg-jazz?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cyhoeddi ‘Cwmwl Tystion III’, rhan olaf trioleg jazz arloesol

Fe fydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn ymuno ag enwau mawr y byd jazz, sy’n cynnwys Melvin Gibbs a Nguyên Lê ar gyfer rhan olaf y drioleg Cwmwl Tystion. Cwmwl Tystion III / Empathy yw trydedd bennod prosiect arloesol Tomos Williams sy’n ymdrin â diwylliant a hanes Cymru.

Golwg360

Cyhoeddi artistiaid Maes B 2026

Bydd yr ŵyl amgen yn cael ei chynnal ar gyrion tref Aberteifi rhwng Awst 4-8 #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2193814-cyhoeddi-artistiaid-maes-2026?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cyhoeddi artistiaid Maes B 2026

Mae Eden, Bwncath, Pys Melyn a Breichiau Hir ymhlith y sêr cerddorol fydd yn cofleidio’r dorf o lwyfan Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni. Yn dilyn llwyddiant datblygiadau newydd ym Maes B Wrecsam 2025, mae trefnwyr yr ŵyl amgen wedi cynnig y cip cyntaf ar arlwy’r Eisteddfod nesaf.

Golwg360

Abertawe: Las Vegas Cymru?

Mae gan Snoop Dogg gynlluniau mawr ar gyfer ail ddinas Cymru, meddai #cerddoriaeth

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2193648-abertawe-vegas-cymru?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Abertawe: Las Vegas Cymru?

Mae’r rapiwr byd-enwog Snoop Dogg wedi datgelu ei gynlluniau mawr i godi statws Abertawe fel ei bod yn “Las Vegas Cymru”. Dywed cyd-berchennog Clwb Pêl-droed Abertawe ei fod e eisiau denu rhai o enwau mwya’r byd cerddoriaeth i Stadiwm Swansea.com, gan bwysleisio bod y ddinas yn colli allan i Gaerdydd a dinasoedd eraill y Deyrnas Unedig pan ddaw i gigs a digwyddiadau mawr.

Golwg360