Dafydd Tomos

40 Followers
46 Following
355 Posts
Gwaith: Datblygu a cynnal gwefannau.
Hamdden: GwyddTechCerddCyfryngIaith.
Lleoliad: Caerdydd
Rhagenwau: fe
🇪🇺🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏳️‍🌈
Gwefanhttps://da.fydd.org/
Wedi clywed bod John Bevan, Aberteifi wedi marw. Cymeriad. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43988418
Unwaith eto John?

John Bevan, gohebydd rhaglen Heddiw yn cael trafferth tra'n ffilmio eitem yn Llansannan yn y 60au

BBC Cymru Fyw
Mae'n ddifyr gwrando ar sgyrsiau NASA gyda Artemis. Gymaint o acronymau. Mae yna dŷ bach ar y llong ond roedd rhyw broblem gyda fe. Yn y cyfamser mae nhw'n gallu defnyddio y CCU (Collapsible Contingency Urinal).
Rwy'n falch bod rhywun yn cymryd y pys allan o'r 'ffotograffwyr stryd' sy'n bla ar y socials.
https://www.tiktok.com/@jam.not.jelly.films/video/7621616522246720791
TikTok - Make Your Day

Gyda etholiad y Senedd nesaf ar y gorwel, dyma edrych nôl ar boster o aelodau'r Cynulliad cyntaf. Dim ond 4 sydd wedi para!

https://www.flickr.com/photos/dafydd/55170809012/in/dateposted-public/

Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999

Flickr
Diddorol clywed am drafferthion NS&I. Mae gen i lyfr cynilion gyda nhw sydd yn cofnodi balans o cwpl o gannoedd yn 1996. Does dim tystiolaeth mod i wedi cau'r cyfri. Ar ôl holi am fisoedd ges i ddau lythyr bore 'ma. Un yn dweud bo nhw wedi diweddaru fy manylion, y llall yn dweud nad ydyn nhw'n gallu olrhain y cyfrif. Mae'r dirgelwch yn parhau.
Rwy'n parhau i dderbyn negeseuon ebost ar ran Dafyddiaid eraill y genedl. Yn y mis diwethaf rydyn ni wedi cael gwaith trydanol yn y ty, mynd ar gwrs Cynllun Ffermio Cynaladwy a cychwyn gyda rhyw hyfforddwr ffitrwydd.
@rhysw @ApAlun os oes gan bobl linell argyfwng, mae BT fod rhoi batri wrth gefn ar gyfer y ffôn.
@nic @rhysw pan o'n i'n 9 neu 10 cefais i anrheg dolig o hen ewythr - casgliad o gartwnau Mac dros y flwyddyn. Wnes i chwerthin ar y lluniau heb ddeall y "jôcs". Cwpl o flynyddoedd yn ddiweddarach ces i lyfr o gartwnau Gren, oedd yn llawer gwell a haws i uniaethu â nhw.
Pan o'n i'n fy ugeiniau o'n i'n casau mynd i fariau lle roedd y gerddoriaeth yn rhy uchel i glywed, er doedd e ddim i weld yn effeithio fy nghyfoedion. 30 mlynedd yn ddiweddarach mae fy nghyfoedion wedi dal fyny ac yn cwyno am gerddoriaeth uchel.
@carlmorris ie a drwy fynd i'r ysgol ym Mangor rwy'n cofio fy athro yn adrodd hanesion. Y peryglon o gael y gwartheg a moch i nofio ar draws y Fenai ar y ffordd i farchnadoedd Llundain.