RE: https://mastodonapp.uk/@PoliticalCartoon/116271911800490976

Mae'r cyfrif yma'n postio cartwnau o sawl cyhoeddiad o bob gogwydd, ond bobl bach ma rhai y Daily Mail a'r Times mor naff a ddim yn ddoniol, oi bai mod i wedi methu rhyw stori amlwg.

@rhysw Mae “Mac” tu hwnt i barodi, hilgi egr 90 oed sy wedi dod mas o ymddeoliad i ledu mwy o wenwyn yn ei henaint.

https://en.wikipedia.org/wiki/Stanley_McMurtry

Stanley McMurtry - Wikipedia

@nic @rhysw pan o'n i'n 9 neu 10 cefais i anrheg dolig o hen ewythr - casgliad o gartwnau Mac dros y flwyddyn. Wnes i chwerthin ar y lluniau heb ddeall y "jôcs". Cwpl o flynyddoedd yn ddiweddarach ces i lyfr o gartwnau Gren, oedd yn llawer gwell a haws i uniaethu â nhw.
@dafyddt @rhysw Roedd nhad i'n darllen y Daily Express, felly llyfrau Giles o’n i’n cael. Ddim wedi cael fy nhemtio i fynd yn ôl atyn nhw, ond o leia does ganddo fe adran “Controversy” ar ei dalen Wikipedia.