Diddorol clywed am drafferthion NS&I. Mae gen i lyfr cynilion gyda nhw sydd yn cofnodi balans o cwpl o gannoedd yn 1996. Does dim tystiolaeth mod i wedi cau'r cyfri. Ar ôl holi am fisoedd ges i ddau lythyr bore 'ma. Un yn dweud bo nhw wedi diweddaru fy manylion, y llall yn dweud nad ydyn nhw'n gallu olrhain y cyfrif. Mae'r dirgelwch yn parhau.