Mae gormod o blant yn yr un sefyllfa â David Thomas - dyna pam ein bod ni'n galw am Ddeddf Addysg Gymraeg *i bawb*
cymdeithas.cymru
Union chwedeg mlynedd yn ôl aeth criw o fyfyrwyr dewr i swyddfa bost Aberystwyth ac ymlaen i bont Trefechan i brotestio dros hawliau i'r Gymraeg.
Ein gwaith ni nawr yw adeiladu ar hynny trwy barhau i ymgyrchu.
Mae angen Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol.
Diddordeb? Mwy o wybodaeth: https://cymdeithas.cymru/newyddion/swyddogcyfathrebu2022
Yn ei golofn gyntaf yn Y Cymro fel Cadeirydd mae Robat Idris wedi defnyddio'r cyfle i sôn am yr heriau - a'r cyfleoedd - i ymgyrchu dros y Gymraeg a'n cymunedau dros y flwyddyn nesaf.
Mynnwch gopi o'ch siop lyfrau Cymraeg leol
A darllenwch ragor am y Gymdeithas ar ein gwefan - cymdeithas.cymru
Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid. Flwyddyn diwethaf caniataodd Llywodraeth Cymru i geiswyr lloches fynychu gwersi Cymraeg am ddim, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i’r cynllun gael ei ymestyn i gynnwys ffoaduriaid.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar wirfoddolwyr - ac mae'n amser enwebu swyddogion newydd! O ymgyrchu i ddylunio, mae rhywbeth i bawb.
Cymrwch gip ar y swyddi, ac enwebwch rywun (neu eich hun) nawr 👇
https://cymdeithas.cymru/enwebu