Cymdeithas yr Iaith

30 Followers
18 Following
15 Posts
Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
cymdeithas.cymru
"Mae'n amhosibl i fi ddychmygu'r cyfleoedd y byddwn i wedi eu cael petai fi wedi tyfu lan yn ddwyieithog."
Mae gormod o blant yn yr un sefyllfa â David Thomas - dyna pam ein bod ni'n galw am Ddeddf Addysg Gymraeg *i bawb*
Dyma flas o daith gerdded "Ymlaen o'r Gorffennol" - digwyddiad i nodi chwedeg mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith
Mae rhagor o glipiau i'w clywed yma: https://www.youtube.com/playlist?list=PLFBRp6XH93UQTzcXoci9LdGM_aHjLxojO
"Ymlaen o'r Gorffennol"

YouTube

Union chwedeg mlynedd yn ôl aeth criw o fyfyrwyr dewr i swyddfa bost Aberystwyth ac ymlaen i bont Trefechan i brotestio dros hawliau i'r Gymraeg.
Ein gwaith ni nawr yw adeiladu ar hynny trwy barhau i ymgyrchu.

https://cymdeithas.cymru/ymaelodi

Ymuno â'r Gymdeithas | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae angen Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol.

Diddordeb? Mwy o wybodaeth: https://cymdeithas.cymru/newyddion/swyddogcyfathrebu2022

Cyfle i ymuno â thîm Cymdeithas yr Iaith! | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae tad i ddwy ferch yn Wrecsam yn dal i aros am wersi nofio i'w blant yn Gymraeg, dair blynedd ers iddo ofyn gyntaf
https://cymdeithas.cymru/newyddion/nofio
Dyma'u llythyr
Tad yn aros dros dair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Rydyn ni'n gwrthwynebu trais a rhyfel ac yn falch o fod yn fudiad sy'n arddel y dull di-drais ers ein sefydlu
#heddwch

Yn ei golofn gyntaf yn Y Cymro fel Cadeirydd mae Robat Idris wedi defnyddio'r cyfle i sôn am yr heriau - a'r cyfleoedd - i ymgyrchu dros y Gymraeg a'n cymunedau dros y flwyddyn nesaf.
Mynnwch gopi o'ch siop lyfrau Cymraeg leol

A darllenwch ragor am y Gymdeithas ar ein gwefan - cymdeithas.cymru

Mae gan Llywodraeth Cymru
bolisi o wneud Cymru yn Genedl Noddfa - ond ymddengys weithiau mai geiriau gwag yw hyn. Dyma gyfle i'r Llywodraeth weithredu ei egwyddorion datganedig o gynhwysoldeb a sicrhau fod gan bawb, o bob cefndir, fynediad at yr iaith: https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2013528-cymdeithas-iaith-galw-wersi-cymraeg-ddim
Cymdeithas yr Iaith yn galw am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid

Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid. Flwyddyn diwethaf caniataodd Llywodraeth Cymru i geiswyr lloches fynychu gwersi Cymraeg am ddim, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i’r cynllun gael ei ymestyn i gynnwys ffoaduriaid.

Golwg360
Rydym ninnau, ynghyd ag ymgyrchwyr iaith yn yr Alban, Iwerddon, Cernyw ac Ynys Manaw yn galw ar ein llywodraethau perthnasol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, argyfwng sy'n bygwth dyfodol y Gymraeg ac ieithoedd leiafrifol eraill fel ieithoedd gymunedol: https://www.thenational.scot/news/18717044.ongoing-rural-housing-crisis-a-threat-celtic-languages/
'Housing crisis is a threat to our languages': Cross-border call on Gaelic, Welsh and more

THE rural housing crisis is threatening our future, claim activists from Scotland, Ireland, Wales, Isle of Man and Cornwall who have united in a…

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar wirfoddolwyr - ac mae'n amser enwebu swyddogion newydd! O ymgyrchu i ddylunio, mae rhywbeth i bawb.

Cymrwch gip ar y swyddi, ac enwebwch rywun (neu eich hun) nawr 👇
https://cymdeithas.cymru/enwebu

Eisiau bod yn rhan o dîm arbennig sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg? | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg