Roedd hi'n braf ddoe. Roedd hi'n oer yn y bore, efo rhew ar y lawnt, ond roedd hi'n sych a heulog. Mi wnes i ddefnyddio'r ysgol drybedd a llif gadwyn bolyn i wneud mwy o waith ar y coed afal. Yn anffodus, mi ddois i o hyd i fwy cancr bacteriol. Mae hi'n hollol gwahanol heddiw. Mae hi'n bwrw glaw mân a mae hi'n ddiflas. Wnes i ddim gweithio yn yr ardd heddiw. Mi wnes i dipyn o waith yn y tŷ, ond doedd gen i ddim llawer o egni.