
Synfyfyrion Sara: O dde-ddwyrain Sulawesi i Rosllannerchrugog a Llanrwst
Wedi diwrnod o snorclo a gwylio adar, roedden ni i gyd wedi ymgynnull yn lolfa fechan llong y Katherina i wrando ar gyflwyniad dyddiol Augustina, ein tywysydd ar y daith. Ar ôl dangos sleidiau o’r cwrel a physgod ac ati, dangosodd fap o Indonesia, gan dynnu sylw at ynysoedd amrywiol a rhoi rhywfaint o’r hanes.
Golwg360
Pobol Cymru’n pleidleisio ar Fai 7
Ym mis Mai, bydd tirwedd wleidyddol Cymru’n newid; mae canlyniadau a goblygiadau’r newid hwnnw ymhell o fod yn amlwg. Pe bai Dafydd ap Gwilym yn fyw heddiw, prin y buasai’n barod i ganu mor siriol hyderus: Da fyd ym yw dyfod Mai.
Golwg360🗣 A yw proses creu deddfwriaeth yn y Senedd yn rhy wan?
Mae dwy enghraifft ddiweddar o waith deddfwriaethol y Senedd yn codi pryderon amlwg ynghylch sut mae’r broses yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd #safbwynt #gwleidyddiaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/2194300-proses-creu-deddfwriaeth-senedd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

A yw proses creu deddfwriaeth yn y Senedd yn rhy wan?
Er ei bod bron yn ddiwedd y tymor a’r Chweched Senedd ar fin dod i ben, dydy hi ddim wedi bod yn gyfnod tawel o ran pasio biliau. Yr wythnos ddiwethaf, bu’r Senedd yn cymeradwyo Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Golwg360🗣 Ysgol De Caerdydd: ‘Anghyfiawnder a diffyg uchelgais’
“Mae’r pellter rhwng cymunedau de’r ddinas a’r ysgolion uwchradd Cymraeg yn broblem am dri rheswm” #safbwynt
https://golwg.360.cymru/newyddion/addysg/2194210-ysgol-caerdydd-anghyfiawnder-diffyg-uchelgais?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Ysgol De Caerdydd: ‘Anghyfiawnder a diffyg uchelgais’
Mae Tre-biwt a Grangetown yn ne Caerdydd ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru; cymunedau sydd dafliad carreg o safle’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, y Senedd, a phencadlys yr awdurdod lleol.
Golwg360🗣 Angen addysgu ac ailgydio yng nghenedligrwydd Cymry America
Gyda thros ddwy filiwn o Gymry yn America, byddech chi’n disgwyl rhagor o adnoddau i feithrin cenedligrwydd #safbwynt
https://golwg.360.cymru/newyddion/rhyngwladol/2194137-angen-addysgu-ailgydio-nghenedligrwydd-cymry?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Angen addysgu ac ailgydio yng nghenedligrwydd Cymry America
Mae tua blwyddyn bellach ers i fi orffen, yn answyddogol, fy ngradd Meistr mewn Hanes, pan gyflwynais i ran olaf fy hanesyddiaeth ar Gymru Fydd, bymtheg wythnos yn gynnar. Dw i wedi bod yn pendroni ynghylch beth i’w wneud fyth ers hynny, gan ysgrifennu adolygiad llyfr achlysurol a dilyn tystysgrif mewn Addysg i Oedolion er mwyn cadw fy ngwaith hanes yn fyw.
Golwg360
“If I had my way I’d send them all home”
Roedd darllen ynglŷn â sylwadau Nigel Farage am y Cymry fel pobol sy’n siarad iaith estron yn f’atgoffa o nifer o ddigwyddiadau ’nôl ar ddechrau troad y ganrif. Roedd y cyfnod hwnnw yn dilyn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd o ar y pryd, yn gyfnod o atgasedd ffromllyd, gorffwyll tuag at y Gymraeg gan y wasg Brydeinig, yn enwedig y Welsh (sic) Mirror o dan olygyddiaeth gwleidyddol Paul Starling.
Golwg360
Nid champagne ond dŵr glân
Yng nghyd-destun Oedfa ‘gyffredin’, mae’r bregeth yn gydiol wrth y darlleniad o’r Gair, a hynny’n gwbl naturiol a chywir. Heb destun a chyd-destun, plentyn amddifad yw’r bregeth. Gan dderbyn yr uchod, credaf y dylid creu gwell cysylltiad rhwng y bregeth a’r weddi gynulleidfaol.
Golwg360
Cegin Medi: Compote aeron cynnes gyda iogwrt
Nid brecwast cyffredin mohono. Mae’r compote aeron hwn yn arbennig oherwydd ei fod yn troi rhywbeth syml yn ei hanfod – ffrwythau wedi’u rhewi – yn rhywbeth cyfoethog a llawn dyfnder. Mae’r mudferwi ysgafn yn dwysáu’r blas ac yn dod â chynhesrwydd I’r iogwrt – dewis gwahanol ond moethus i ddechrau’r diwrnod.
Golwg360
Cysylltu, symud a ffynnu
Ar Fawrth 20, mae Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd yn ein gwahodd i stopio am eiliad a gofyn cwestiwn syml ond dwfn: beth sy’n ein gwneud ni’n wirioneddol hapus? Mewn byd lle mae sgriniau yn rhan annatod o’n bywydau, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu portreadu fel rhywbeth sy’n tanseilio lles.
Golwg360
Synfyfyrion Sara: Fy hanner awr fawr
“A phen-blwydd hapus i Sara Edwards o Wrecsam, gan Mam, Dad, a’i brawd mawr Dawson” Tua 1988 oedd hi pan ges i sylw ar raglen Yr hanner awr fawr, ynghyd â dangos llun ohonof mewn ffrog werdd dywyll, a’m gwallt tenau mewn pigtails wedi’u plethu – un bob ochr i ‘mhen.
Golwg360