Ces gais heddiw o'r grŵp WhatsApp 'Mamau gymnasteg (...a Rhys)' [nid dyna'r enw go iawn] i olygu cerdd Gymraeg oedd yn allbwn AI i'w rhoi mewn cerdyn diolch i'r hyfforddwraig. Gwnaeth imi deimlo'n anesmwyth iawn, ond gwnaeth hefyd fy sbarduno i drio creu cerdd fy hwn, rhywbeth faswn i byth wedi meddwl gwneud fel arall. Mae fod yn awdl-gywydd.
Gwelaist ti ynom ni ddawn
ymdrechu wnawn yn awr
yr Ynys Werdd yw ein nod
i ti mae'r ddyled yn fawr
https://cy.wikipedia.org/wiki/Awdl-gywydd
Dwi'n mynd yn ôl enghraifft ar yr erthygl Wicipedia, ond oes angen i'r odl gyrch fod rhwng diwedd y linell gyntaf a gorffwysfa'r ail? Byddai swopio fy ail a phedwaredd linell yn gwneud mwy o synnwyr gyda threfn yr hyn a ddywedir.
#barddoniaeth #cymraeg
