“Mae’r Urdd yn cynnig cyfle i ni wthio’r ffiniau”
Prif Gyfansoddwr 2026 sy’n trafod dylanwad yr Urdd ar ei bywyd a’r anogaeth mae’n ei chynnig iddi arbrofi #cerddoriaeth

“Mae’r Urdd yn cynnig cyfle i ni wthio’r ffiniau”
Mae rhywbeth arbennig iawn am y cerddorion ifainc mae’r Urdd yn eu meithrin, yn ôl Prif Gyfansoddwr yr Urdd 2026. Derbyniodd Heledd Wynn Newton o Gaerdydd Fedal Gyfansoddi’r Eisteddfod yn gynharach heddiw (Mai 26), wedi dod yn drydydd yn y gystadleuaeth ddwywaith o’r blaen.