Yn eich barn chi beth yw'r cyfleoedd mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig i dwf y Gymraeg? Mae hynny yn gwestiwn dw i'n clywed yn aml. Rhaid cyfaddef fy mod i'n sgeptig am lawer o'r honiadau sy'n cael eu gwneud gan y diwydiant a charedigion y technoleg ar hyn o bryd, a'r hyn dw i wedi gweld.
@carlmorris mae'r modelau llais-i-destunnyn gwella'n gyflym, a mae nifer yn "deall" Cymraeg. Yn y Llyfrgell ni'n edrych ar drawsgrifio deunydd AV ac arbrofi gyda segmentu eitemau, crynhoi, ayyb i wella darganfuedd y deunydd. Lot o ffordd i fynd.
@illtud Difyr iawn ie. Pa fodelau yw dy hoff rai? Fy ngobaith i yw bod S4C yn dod ag is-deitlau Cymraeg yn ôl ar Clic, rhoi nhw ar fideos Hansh ayyb - am lawer o resymau
@illtud o ran categorïau AI mae hi'n teimlo bod tipyn o wahaniaeth rhwng trosi cynnwys (llais<->testun neu gyfieithu) nad sydd angen 'dychymyg', a thrio cynhyrchu pethau fel llyfrau/ffilm o'r newydd
@carlmorris cytuno, mae DA cynhyrchiol (generative?) yn enwedig os yn cynhyrchu rywbeth fyddai'n arfer bod yn allbwn creadigol, yn gategori arall i mi. Gellid deud fod crynhoi yn ymylu ar allnwn creadigol - yn sicr mae'n rhoi sgôp i gael pethau'n gwbl anghywir, neu i freuddwydio. Dwi'n teimlo'n hapusach gyda entity extraction a llais-i-destun. Mae rhain yn gallu bod yn anghywir hefyd, ond ni'n goddef hynny yn debyg eisoes gyda OCR, er engraifft.