Yn eich barn chi beth yw'r cyfleoedd mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig i dwf y Gymraeg? Mae hynny yn gwestiwn dw i'n clywed yn aml. Rhaid cyfaddef fy mod i'n sgeptig am lawer o'r honiadau sy'n cael eu gwneud gan y diwydiant a charedigion y technoleg ar hyn o bryd, a'r hyn dw i wedi gweld.
Er enghraifft ydyn ni eisiau rhoi ein plant o flaen llyfr neu fideo neu raglen 'deledu' sydd wedi ei chynhyrchu gan AI? Dw i ddim. Mae llawer iawn o enghreifftiau dychmygus gwych sydd eisoes yn bodoli. Yn yr un modd fyddwn i ddim yn darllen llyfr gan system AI - mae pentwr o lyfrau gan bobl alluog yma i mi ddarllen.
Efallai bod pwynt i'w wneud am greu adnoddau dysgu i oedolion ac ati. Ond mae wastad angen golygydd wedyn i wirio bod yr iaith ayyb yn safonol. Fel arall mae peryg o ddosbarthu pethau camarweiniol (ac dw i'n teimlo bod hyn ar y gorwel ta waeth!). Yn y bôn bydd defnydd o system yn ffordd o arbed costau ac arian, optimeiddio proses o greu adnoddau, yn hytrach na rhywbeth sy'n trawsnewid y crefft er gwell.
@carlmorris Dw i’n poeni am hyn a rhagweld taw dyna’r peth fydd yn fy ngorfodi ffeindio gwaith newydd yn fy 60au 😬
@nic Wyt ti wedi bod yn dilyn helynt "AI yn gyntaf" Duolingo? Hollol chwerthinllyd. Hynny yw os mai dyna yw ansawdd y cystadleuaeth rwyt ti'n hollol saff