Ail record newydd y dydd yw Dalec Peilon, #FfaCoffiPawb, sy newydd ei ail-ryddhau, ac am y tro cynaf ar feinyl, wedi’i ail-feistroli gan Kliph Scurlock, ac yn swnio’n dda iawn. Dw i ddim yn nabod hwn yn dda, oni bai am y tracs oedd ar y CD detholiad wnaethon nhw yn 2005.

Mae dal copiau ar gael ar Bandcamp Gruff Rhys

https://gruffrhys.bandcamp.com/album/dalec-peilon-2

#FeinylNewydd

Dalec Peilon, by Ffa Coffi Pawb

10 track album

Gruff Rhys

Ddim yn gyfarwydd â hyn o gwbl, na bron dim byd arall o'r cyfnod cyn i Ian Gillan a Roger Glover ymuno, oni bai am ambell i drac fel “Hush”.

Archebais i hwn gan gymryd taw dyma'u halbym cyntaf, sy’n dangos pa mor anghyfarwydd ydw i â “Mark I” - dyma'r trydydd, a'r olaf gan y lein-yp yma.

https://www.discogs.com/master/983-Deep-Purple-Deep-Purple

#FeinylNewydd #GwrandoNawr #DeepPurple