Y pentref bach sy’n denu 700,000
Mae Llanberis yn croesawu 700,000 o dwristiaid y flwyddyn, y mwyafrif â’u bryd ar ddringo’r Wyddfa #CylchgrawnGolwg #newyddion

Y pentref bach sy’n denu 700,000
Un newid bach a byddai un o bentrefi enwoca’r wlad yn edrych yn bur wahanol heddiw. Mae Llanberis yn croesawu 700,000 o dwristiaid y flwyddyn, y mwyafrif â’u bryd ar ddringo’r Wyddfa. Pe bai cynllun i adeiladu dros 30 o dai gwyliau anferth wedi mynd yn ei flaen yn y 1860au, pentref gwyliau fyddai wrth droed yr Wyddfa ac nid pentref o gartrefi chwarelwyr Cymraeg eu hiaith.