Yn absenoldeb trafodaeth am bêl-droed yn gyffedninol ar Mastodon, ac am bêl-droed Cymru'n arbennig, dyma edefyn i bostio sdwff am Rownd Derfynol Cwpan Cymru y Dynion heddiw.
Caernarfon v Y Fflint | 15:15 (Rodney Parade, Casnewydd)
#CwpanCymruJD #JDWelshCup #MastodonFC
https://sgorio.cymru/rhagolwg-rownd-derfynol-cwpan-cymru-jd-2025-26/
RHAGOLWG ROWND DERFYNOL CWPAN CYMRU JD 2025/26  – Sgorio

Cwpan Cymru: Caernarfon i herio'r Fflint yn y rownd derfynol

Brynhawn Sul bydd gêm fwya’r tymor yn cael ei chynnal yn Rodney Parade, Casnewydd wrth i Gaernarfon a’r Fflint gystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD

Gobaith Caneri i Gaernarfon godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf?

Caernarfon a'r Fflint fydd yn wynebu ei gilydd yn ffeinal Cwpan Cymru ddydd Sul, gyda'r ddau glwb yn ceisio creu hanes.

BBC Cymru Fyw
Lot o frawddegau yn gorffen efo "...., ia?" ar y trên o Gaerdydd i Gasnewydd.
Ro'n i'n dal yn dathlu camu ar orsaf Casnewydd 30 munud yn unig ar ôl gadael drws y tŷ pan chwydodd Cofi fodfedd oddi wrtha i - mae'n wyrthiol na sblasiwyd arna i. Es i dal i gael fy nghinio Sul a Bass 'diwrnod ffeinal' blynyddol yn y Pen & Wig r'un fath.
@rhysw nes i wario gormod o amser o lawer cyn deall bod typo yn dy dŵt
@illtud dim ond un ?!
@illtud newydd sbotio fo. Doniol iawn, yn enwedig gan mai boi byr iawn oedd o.