Morgannwg yn talu teyrnged i ddau o’r hoelion wyth ar ddechrau’r tymor criced

Bydd munud o gymeradwyaeth er cof am Hugh Morris a John Williams cyn diwrnod cyntaf gêm gynta’r tymor fory (dydd Gwener, Ebrill 3)

https://golwg.360.cymru/newyddion/2194769-morgannwg-anrhydeddu-hoelion-wyth-ddechrau-tymor?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Morgannwg yn talu teyrnged i ddau o’r hoelion wyth ar ddechrau’r tymor criced

Bydd Morgannwg yn talu teyrnged i ddau o’u hoelion wyth fory (dydd Gwener, Ebrill 3), gyda munud o gymeradwyaeth ar ddiwrnod cynta’r tymor. Bu farw Hugh Morris, cyn-gapten a chyn-Brif Weithredwr y clwb, yn 62 oed ym mis Rhagfyr yn dilyn salwch hir, a John Williams, cadeirydd Orielwyr San Helen, yn 84 oed ym mis Chwefror yn dilyn salwch byr.

Golwg360