Llanw Llŷn yn dathlu hanner canrif
“Y peth pwysicaf ydy fod pobl yn dal i’w ddarllen o, lle bynnag mae o, a bod pobl yn dal i gyfrannu tuag ato” #bro

Llanw Llŷn yn dathlu hanner canrif
Mae papur bro Pen Llŷn yn dathlu hanner canrif o gyhoeddi newyddion yr ardal i’w thrigolion y mis yma. Ers y rhifyn cyntaf a olygwyd gan y Prifardd Alan Llwyd ym mis Mawrth 1976, mae gohebwyr yn mynd ati i ohebu straeon, newyddion a digwyddiadau o holl bentrefi’r ardal er mwyn cynulleidfa leol a thu hwnt.