Prosiect newydd i uno llyfrgelloedd cenedlaethol y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
Bydd Syr Keir Starmer a’r Taoiseach Micheál Martin yn cyhoeddi’r rhaglen arloesol – gwerth €750,000 – mewn cynhadledd arbennig yn Corcaigh #celfyddydau

Prosiect newydd i uno llyfrgelloedd cenedlaethol y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
Mae disgwyl i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon gyhoeddi cyfres arloesol o arddangosfeydd a digwyddiadau i’w cynnal ar y cyd ym mhedair llyfrgell genedlaethol y ddwy wlad. Mae hynny’n sgil cyfarfod arbennig rhwng y Taoiseach Micheál Martin a’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn Corcaigh heno (Mawrth 13), fydd yn canolbwyntio ar gryfhau perthynas y ddwy wlad wedi Brexit.