Y soprano o Drimsaran sy’n serennu
“Os ydyn nhw wedi cael diwrnod caled yn gwaith neu fod ryw broblemau adref, dw i yn credu bod gwrando ar gerddoriaeth yn gallu lleddfu problemau” #CylchgrawnGolwg #portread

Y soprano o Drimsaran sy’n serennu
Portread o Eirlys Myfanwy Davies Mae cantores opera gafodd ei henwi yn Llais y Dyfodol gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn edrych ymlaen at ddychwelyd i lwyfan yr ŵyl eleni. Eirlys Myfanwy Davies, sydd yn dod o Drimsaran ger Llanelli, enillodd y teitl yn 2017, ac ers hynny mae hi wedi cael cyfleoedd lu yn y byd perfformio.