Cyfieithiad Cymraeg o Matilda yn ysbrydoli myfyrwraig o Wlad Pwyl
Mae Joanna Człapa wedi gwneud ymchwil ar eiriau, ymadroddion a rhegfeydd Cymraeg #DysguCymraeg #Lingo360

Cyfieithiad Cymraeg o Matilda yn ysbrydoli myfyrwraig o Wlad Pwyl
Mae Joanna Człapa yn dod o Wlad Pwyl. Mae hi’n ymchwilydd academaidd. Mae hi’n gwneud ymchwil ar eiriau, ymadroddion a rhegfeydd Cymraeg. Roedd hi wedi cael ei hysbrydoli ar ôl darllen cyfieithiad Cymraeg o’r nofel i blant, Matilda, gan Roald Dahl.