Llongyfarchiadau i Sean Sapstead ar gael MBE am wasanaethau i seiberddiogelwch. Graddiodd Sean o’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers iddo raddio mae wedi gweithio mewn swyddi ym meysydd Gwybodaeth a Seiberddiogelwch yn y GIG Digidol a GIG Lloegr. 🧵
Sean oedd arweinydd tîm Canfod ac Ymateb GIG Lloegr rhwng Hydref 2022 a Chwefror 2025, gan gryfhau gwytnwch seiberddiogelwch ar draws y GIG yn ystod un o gyfnodau mwyaf tyngedfennol y GIG. Mae ei arweinyddiaeth a'i ymroddiad i ddiogelu systemau gofal iechyd bellach wedi ennill cydnabyddiaeth iddo ar y lefel uchaf.

Soniwyd yn y wobr am ddigwyddiad a arweiniwyd gan Sean yn ymwneud â darparwr patholeg mawr yn Llundain ym mis Mehefin 2024. Nodwyd hefyd rôl Sean fel Cadeirydd Lloches Anifeiliaid Elijah, a sefydlwyd gyda'i wraig er cof am eu mab.
Derbyniodd Sean ei wobr mewn seremoni yng Nghastell Windsor ym mis Hydref.

Rydym yn falch iawn o waith Sean ac mae’n bleser gennym ei gynnwys mewn trafodaethau i ddatblygu ein haddysgu seiberddiogelwch.