Sylwais fod fy 'local' ar gau heddiw a bod tipyn o waith yn cael ei wneud. Er mai ar gyfer gwylio pêl-droed mae 50% a mwy o fy ymweliadau yno, mae hyn yn swnio'n wirioneddol uffernol. £345,000 i ddifetha rhywle. #tafarndai #caerdydd #cardiff #pubs https://www.wales247.co.uk/popular-canton-pub-to-relaunch-with-giant-screens-and-new-sports-experience
Popular Canton pub to relaunch with giant screens and new sports experience

The Victoria Park Hotel in Cardiff will close its doors on 2nd February to allow for an exciting refurbishment before reopening as a ‘Grandstand’ sports pub. This transformation represents a significant investment of over £349,500. The much-loved community pub will be transformed with new features designed to deliver a stadium-style experience on every visit. The

Wales 247
@rhysw trist. I fod yn onest dwi byth yn mynd yno, ond mae hwn yn swnio fel hunllef. #treganna #caerdydd
@richardnosworthy Mae'n boncyrs. Os yw'r ffigwr y gost yn gywir, gellid bod wedi prynu rhywle arall am ychydig mwy! Er gwaetha helynt y sector, roedd i'w gweld fel tafarn 'normal' a phobl ynddi drwy'r dydd a drwy'r wythnos (a fawr neb yn gwylio'r sports). Pam swopio pren cynnes am deils gwynion?
Mewn ymgais i godi fy mhwysau gwaed, mae Google news wedi cynnig erthygl i mi am dafarn sydd newydd gael y driniaeth 'Grandstand' gan Marstons. Mae siap yr ystafell yn y llun ar y chwith yn rhoi syniad go dda sut bydd y Victoria Park yn debygol o edrych.
https://westbridgfordwire.com/pub-reopens-after-340000-transformation-into-grandstand-sports-venue/
Dwi'n gwybod eich bod chi'n ysu i weld y Victoria Park ar ei newydd wedd. Dio ddim 'cweit' mor wael ac oeddwn wedi ofni, ond mae wedi colli lot o seddi cyfforddus sydd ddim yn grêt i gwsmeriaid hŷn, sef % uchel o'u selogion. Methais dynnu llun y prif ardal. #Cwrw dal yr un fath. #Pubs #tafarndai #Caerdydd #Cardiff