Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 6.4.2025

Bob Morris sy’n rhoi hanes Eisteddfod Fawr Llangollen 1858, gan graffu ar wirionedd y digwyddiad hwnnw a achosodd gymaint o drafferth yn ei gyfnod.

Mae Meleri Wyn Davies yn trafod ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth sy’n deyrnged i’r merched yn ei theulu, ac i fyd busnes yr awn wrth i Heledd Bebb rannu ei hoff gerdd.

10 o ddyddiau ar ôl i wrando
https://www.bbc.co.uk/programmes/m0029qfm
#Cymraeg #Hanes #Eisteddfod #Llangollen #BBCRadioCymru

BBC Radio Cymru - Dei Tomos, Hanes Eisteddfod Fawr Llangollen 1858, a cherddi am dair cenhedlaeth o fenywod

Bob Morris sy’n rhoi hanes yr helyntion yn Eisteddfod Fawr Llangollen 1858

BBC
Hanes Steddfod 1858 yn ddifyr (pa syndod gyda Bob Morris yn ei adrodd) am sawl rheswm, ond dau beth a'm tarodd: 'ab Ithel' (John Williams) oedd un o'r trefnwyr - cyfenw fy nghraig yw Bithell; roedd y pafiliwn, oedd yn dal 5,000, ar dir tafarn ac roedd diod gadarn ar werth - mantais eglwyswyr yn trefnu ac nid anghydffurfwyr debyg!