Ocê, ond mae hyn yn ddoniol ac yn ddiniwed - gwefan ble mae modd gosod bet (efo arian ffug) ar pa drenau yn yr Almaen sydd am gyrraedd ar amser neu beidio. Mae rhyngwyneb Saesneg hefyd os ydych am chwarae. #doniolwch #trenau #yrAlmaen
https://toot.wales/@[email protected]/116164719543609494
Tŵt Cymru | Toot Wales

Cynllunio taith i #Norwich ac mae peiriant tocynnau #Caerdydd Canolog yn dangos hwn.

Dwi'n falch i weld enwau Cymraeg, ond yn ôl Wicipedia, Northwich ydy'r Heledd-Ddu, nid Norwich...

#Cymraeg #trenau #rheilffordd #EnwauLleoedd

Ar ôl profiad gwych gyda #TrafnidaethCymru yn ystod y Steddfod, bach yn siomedig y tro yma. Dau drên gyda phroblemau toiled ar y ffordd yno. Trên wedi canslo ar y ffordd nôl i Gaerdydd, gydag oedi a gorfod newid/rhedeg yn annisgwyl.

#trenau #rheilffordd

Dwi'n caru mynd ar drenau, ond mae'r streiciau yn meddwl fy mod i ddim yn trefnu unrhyw deithiau.

Pam? Achos dwi ddim eisiau trefnu gwyliau i'r teulu a phoeni am eu colli nhw oherwydd streic arall.

Y llywodraeth a'r cwmnïau trên sy'n gyfrifol am hyn. Rwy'n cefnogi'r gweithwyr. Ond mae'n drist i golli allan ar deithiau.

Ydych chi'n teimlo'r un ffordd?

#teithio #trenau

Golygfeydd hardd o ffenestr y trên ar lein Calon Cymru ❤️ (hyd yn oed ar ddydd cymylog).

#trenau #rheilffordd #cymru