Argymhellion am galendr ar-lein? Rhywbeth diogel ac agored.

Ro'n i eisiau defnyddio #ProtonCalendar ond dyw hi ddim yn gweithio all-lein...

#Proton @meddalcom #meddalwedd

Yn fy nghais diweddaraf i gofleidio meddalwedd agored, rwy'n golygu podlediad gydag #Audacity yn lle #AdobeAudition.

'Learning curve' eitha serth ond mae'n teimlo'n iawn - dwi'n credu bod Audacity wedi gwella lot ers y tro diwethaf i fi ddefnyddio fe.

#meddalwedd #FfynhonnellAgored #podlediad @PodlediadHefyd #PodlediadHefyd

Y prif dasg heddiw yn y #30dayfosschallenge ydy ffeindio ap darllen newyddion / #RSS - eitha impresd gyda #NetNewsWire hyd yn hyn. Hawdd i fewnforio ffrydiau o Feedly. @carlmorris @davidoclubb @rhysw #meddalwedd

Yn raddiol dwi'n symud fy mywyd digidol i ddewisiadau mwy agored a moesol. Heddiw wedi symud i #Firefox ar fy mhrif gyfrifiadur.

Pethau eraill rwy'n ystyried newid:

-Storio a rhannu lluniau yn y cwmwl
-Ap negesu
-Galwadau fideo
- RSS
- Podlediadau

Cyngor?

#meddalwedd #FfynhonnellAgored #porwr @meddalcom