Band arall dw i heb brynu ar feinyl o'r blaen, oni bai am y sengl wnaethon nhw ar y cyd gyda Nirvana yn 1993 - The #JesusLizard

Mae'r albym newydd hwn yn swnio'n wych, dw i'n falch mod i ddim wedi gwrando arno ar y ffôn cyn i fi gael y feinyl.

https://www.discogs.com/release/31718570-The-Jesus-Lizard-Rack

#feinyl #GwrandoNawr

Rhag ofn y bydd diddordeb, dyma edefyn mawr ar gyfer “records brawd Wil” a ddaeth i'm gofal ddoe.

Dyma'r degfed tro, o leia, i fi gael rhodd fel hyn, ac heb os un o'r casgliadau mwya difyr a diddorol dw i wedi’i dderbyn.

(Cewch fudo’r edefyn os nag oes diddordeb!)

#feinyl #vinyl

Wedi dechrau ar yr AC/DC ac mae temtasiwn i “lenwi’r bylchau” yn y casgliad yn gryfach o lawer. Sut dw i heb gael gafael ar Highway to Hell na Back in Black yn y 43 o flynyddoedd diwetha?

#feinyl #vinyl #ACDC

Dw i’n trial cofio dod â records lawr stâr bob dydd — mae trwch y casgliad yn byw yn y stafell sbâr, ar silfoedd Ikea, gyda rhyw 200 LP ar bwys y stereo yn y lolfa — felly dyma’r pigiadau ar gyfer heddi.

Dau glasur dw i’n nabod yn dda, a dau sy’n eitha newydd ond sy wedi diflannu i’r storfa cyn i fi ddod i’w nabod nhw’n iawn.

#feinyl #SteveHillage #Spiritualised #Spiritbox #LargePlants #vinyl

Llwyth o #feinyl ail-law o siop elusen yn Aberteifi, ac am brisiau rhesymol am unwaith - £5 yr un am Monk a Steely Dan, £2 am y Bud Powell a dim ond punt am y Traffic, sy’n mewn cyflwr eitha gwael, ond gawn ni weld…
Diolch yn fawr Neath Record Fayre…..picked up a ton of John Lennon, plus some Led Zepplin and Rolling Stones! #Vinyl #Feinyl 😎👍

Nôl at y casgliad o feinyl #ClayPipe, a ffefryn arall, sef “Adlestrop” #GilroyMere (Pipe 025). Mae'r albym wedi'i seilio ar gerdd o'r un enw gan #EdwardThomas, a'r trac yma'n cynnwys y gerdd yn ei ghyfanrwydd.

https://youtu.be/AKpWMyQmoc0?si=fK03kE1iX7tS6MVp

#GwrandoNawr #feinyl

Adlestrop by Gilroy Mere - Music from The state51 Conspiracy

YouTube

Districts, Roads, Open Space
gan #WarringtonRuncornNewTownDevelopmentPlan

Un o’r pethau newydd (er mai ail-ryddhad yw hwn) ges i o @LogoFiasco yr wythnos diwetha, a dim ond nawr yn setlo lawr i'w wrando. Swnio'n wych ar y stereo mawr. Ces i'r fersiwn “Cymylau Duon”, sy'n bert iawn.

https://warrington-runcorn-cis.bandcamp.com/album/districts-roads-open-space

#GwrandoNawr #Feinyl #hauntology

Districts, Roads, Open Space, by Warrington-Runcorn New Town Development Plan

6 track album

Warrington-Runcorn New Town Development Plan
Hei Vidal! Ar Feinyl! Mae'r fersiwn feinyl newydd o Hei Vidal! yn cyfarfod y fersiwn gwreiddiol ar CD o 1992. #feinyl #vinyl #ffacoffibawb #cymraeg #chiwns

Wedi gor-wneud y feinyl newydd yr wythnos hon. Mae’r postmon yn gofyn cwestiynau.

#feinyl #vinyl