Mae Clarence Hardware yn Nhrelluest yn siop arbennig. Braf gweld rhywle annibynnol sy'n gwerthu bron popeth ar gyfer y tŷ a'r ardd.

#Caerdydd #Grangetown #Trelluest

Braf iawn iawn oedd clywed yr enw lle "Trelluest" (Grangetown) yn cael ei adrodd ar fwletin Radio Cymru bore ma. Teyrnged hyfryd i'r diweddar John Davies a gyfrannodd gymaint at fywyd ein cenedl.

#Trelluest #Caerdydd