Hammad Rind

“Sut allai delwedd o gath enfawr yn sipian fodca beidio â chodi gwên ar wyneb unrhyw un? Mae gen i boster enfawr o’r gath” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2193930-hammad-rind?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Hammad Rind

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Y llyfr sydd wedi meddiannu fy ffocws yn llwyr yw Dictionary of the Khazars gan yr awdur Serbaidd Milorad Pavić. Wedi’i sgrifennu ar ffurf geiriadur, mae e’n cynnig digon i ogleisio’r ymennydd – cyfeiriadau hanesyddol, ieithoedd, breuddwydion, a barddoniaeth.

Golwg360

Dave Jenkins

Mae yn edrych ar ddefnyddio technegau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i ddeall daearyddiaeth y Gymraeg yn well #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2192894-dave-jenkins?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Dave Jenkins

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Y Dydd Olaf gan Owain Owain. Mae hwn yn un o’r llyfrau Cymraeg enwocaf ac felly teimlais fod rhaid i mi ei ddarllen. Dw i’n mwynhau hyd yma. Y llyfr a newidiodd fy mywyd Why We Sleep gan Mathew Walker.

Golwg360

Dawi Griffiths

“Caf ddiddanwch weithiau yng nghyfrolau hyfryd Llyfr Mawr y Plant ac mae Siôn Blewyn Coch, Wil Cwac Cwac a Bili Bwch yn fyw ac yn iach o hyd” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2192418-dawi-griffiths?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Dawi Griffiths

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Dw i’n dueddol o fod â nifer o lyfrau ‘ar fynd’ yr un pryd fel petae. Mae’r ddau sydd wrth fy ochr y dyddiau hyn yn gyfrolau tra gwahanol i’w gilydd, sef Ysgrifau ar Lên a Hanes Powys gan Enid Pierce Roberts, a Dan y Dŵr, un o nofelau hynod ddarllenadwy John Alwyn Griffiths am y ditectif hoffus Jeff Evans.

Golwg360

Manon Gwynant

“Hoffwn sgrifennu llyfr sy’n llawn cyfieithiadau o fy hoff destunau a darnau o nofelau, dramâu, straeon byrion, a barddoniaeth” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2191318-manon-gwynant?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Manon Gwynant

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Little Women – Louisa May Alcott. Roedd y fersiwn ffilm ymlaen ar y teledu dros y Dolig, a sylweddolais nad ydw i wedi darllen llawer o ‘glasuron’, gan gynnwys hwn, felly dyma ddechrau arni.

Golwg360

Jess Martin

“Pan fydd angen i mi godi fy nghalon, dw i’n hoffi darllen ‘What We Owe the Future’ gan William Macaskill” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2190341-jess-martin?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Jess Martin

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Dw i’n hoffi mynd i’r silff ffuglen wyddonol a ffantasi yn y llyfrgell, a dewis llyfr ar hap. Fy llyfr cyfredol yw The Moonlight Market gan Joanna Harris sydd wedi’i osod yn Llundain, a’r byd cudd ynddo.

Golwg360

Anne Uruska

“Byddai darllen ‘How To Fix Just About Anything’ wedi gallu arbed llawer o arian i fi o gwmpas y tŷ” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2189793-anne-uruska?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Anne Uruska

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen De Imitatione Christi gan Thomas à Kempis. Sgrifennwyd y llyfr ganrifoedd yn ôl ac mae wedi’i gyfieithu i nifer o ieithoedd gwahanol. Mae’n llawn cynghorion syml a threiddgar.

Golwg360

Erin Owain

“Dw i wedi gosod her i fi fy hun o gerdded 100 copa Cymru rywbryd, felly mae hwn yn ysbrydoli” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2189331-erin-owain?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Erin Owain

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen The Secret of Secrets gan Dan Brown. Rydan ni’n dilyn antur y cymeriad adnabyddus Robert Langdon ym Mhrâg, wrth iddo ddarganfod cyfrinach byncar tanddaearol mae’r CIA yn ei adeiladau ym mherfeddion y ddinas, lle maen nhw’n gwneud arbrofion ar bobol.

Golwg360

Nia Dooley

“Losing Eden – mae’r llyfr yma yn gasgliad o ymchwil hynod ddiddorol am gysylltedd natur a’i bwysigrwydd i’n hiechyd a’n lles ni fel dynolryw” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2188839-dooley?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Nia Dooley

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Ar Adain Cân gan Gareth Thomas. Stori serch am gariadon o gefndiroedd reit wahanol a’u profiadau a’u helyntion yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. Dw i ar gychwyn y llyfr yma ac yn ei fwynhau hyd yn hyn.

Golwg360

Steffan Donnelly

“Dw i wedi sgrifennu dramâu sydd wedi eu cyhoeddi (My People a My Body Welsh) ond dw i ddim o reidrwydd eisio cael fy nghofio amdanyn nhw!” #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2188054-steffan-donnelly?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Steffan Donnelly

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Hunger gan Choi Jin-young. Mae fy chwaer yn byw yn Ne Korea felly dw i’n trio dod i adnabod y diwylliant yn well trwy ffilmiau (fel yr anhygoel Parasite) a llyfrau. Wedi ei sgrifennu mewn arddull ddirgel a phytiog, mae’n adrodd stori bywyd dau gariad o dan bwysau – ond mae un yn marw ac mae’r llall yn ei fwyta mewn gweithred o gariad.

Golwg360

Simon Rodway

Dw i wastad yn rhoi llyfrau yn anrhegion. Mae sawl un wedi cael ‘Cysgod y Mabinogi’ Peredur Glyn neu ‘Drift’ Caryl Lewis #CylchgrawnGolwg #llyfrau

https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2187613-simon-rodway?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Simon Rodway

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen Dw i wastad yn darllen mwy nag un llyfr ar yr un pryd. Ar ben y pentwr ar hyn o bryd mae I Lawr ymhlith y Werin, casgliad o straeon byrion hynod amrywiol a dyfeisgar gan Aled Islwyn.

Golwg360