Aber - fan (21 Hydref 1966)
I Hamelin erstalwm,
os yw'r hen stori'n ffaith,
fe ddaeth rhyw bibydd rhyfedd
yn gwisgo mantell fraith.
A'r pibydd creulon hwnnw
â aeth a'r plant i gyd
a'u cloi, yn ôl yr hanes,
o fewn y mynydd mud.
A Hamelin oedd ddistaw
a'r holl gartrefi'n brudd,
a mawr fu'r galar yno
tros lawer nos a dydd.
Distawodd chwerthin llawen
y plant wrth chwarae 'nghyd,
pob tegan bach yn segur,
a sŵn pob troed yn fud.
Trist iawn fu hanes colli
y plant diniwed, gwan -
yn Hamelin erstalwm,
heddiw yn Aber-fan.
T.Llew Jones