Galw am fwy o Gymraeg yn y Senedd
Daw’r alwad gan Gymdeithas yr Iaith ar drothwy’r seithfed tymor #gwleidyddiaeth
Galw am fwy o Gymraeg yn y Senedd
Daw’r alwad gan Gymdeithas yr Iaith ar drothwy’r seithfed tymor #gwleidyddiaeth
Plaid Cymru: Dogfen costau’r Blaid Lafur yn “gimic gwleidyddol”
Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi manylion ariannol llawn ymrwymiadau ei phlaid, ac yn herio’r gwrthbleidiau i wneud yr un fath #gwleidyddiaeth

Mae Plaid Cymru wedi wfftio cyhoeddiad gan y Blaid Lafur am gostau llawn yr ymrwymiadau yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd. Daw hynny wedi i Dan Thomas, arweinydd Reform UK yng Nghymru, ddatgan mewn dadl deledu nos Fawrth (Ebrill 28) y byddai ei blaid e’n gwneud yr un fath pe bai’r pleidiau eraill yn cytuno.
Eluned Morgan yn erfyn pleidleisio dros Blaid Cymru ar ddamwain
Mae’r Prif Weinidog yn adnabyddus am fod yn ddi-flewyn ar dafod ar adegau #gwleidyddiaeth

Mae Eluned Morgan wedi galw ar ei chefnogwyr i gefnogi Plaid Cymru, ar ddamwain, wrth iddi ymgyrchu yn Ynys y Barri heddiw (dydd Iau, Ebrill 30). Gydag wythnos yn union yn weddill cyn yr etholiad, mae Prif Weinidog Cymru wedi gwneud gwall chwithig wrth orffen araith i aelodau’r blaid.
Beatrice Lewis, ymgyrchwraig o’r Barri, yn derbyn Plac Porffor Cymru
Beatrice Lewis oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Tre’r Barri yn 1919 #gwleidyddiaeth

Bydd y ddiwygwraig gymdeithasol Beatrice Lewis o’r Barri yn cael ei hanrhydeddu gyda Phlac Porffor Cymru ddydd Gwener (Mai 1). Dyma’r pedwerydd plac ar hugain i gael ei ddadorchuddio ers 2017, pan sefydlydodd Julie Morgan, yr Aelod Llafur o’r Senedd, y rhaglen er mwyn codi ymwybyddiaeth o fenywod nodedig yn hanes Cymru.
Etholiadau’r Senedd: Y broses bleidleisio’n “symlach” y tro hwn
Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru, sy’n pwysleisio na fydd y broses bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn un gymhleth #gwleidyddiaeth

Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru’n pwysleisio y bydd y broses o bleidleisio yn symlach y tro hwn nag yn etholiadau’r Senedd yn y gorffennol. Bydd rhestrau caeëdig o ymgeiswyr yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
Arolwg newydd arall: Reform UK ar y brig
Mae’r arolwg yn cadarnhau tueddiadau diweddar, gan gynnwys culhau rhwng Plaid Cymru a Reform UK ac adferiad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur #gwleidyddiaeth

Mae arolwg barn newydd arall – y chweched mewn llai na phythefnos – yn awgrymu mai Reform UK sydd bellach ar y brig, a hynny gydag ychydig dros wythnos yn weddill cyn etholiadau’r Senedd ar Fai 7. Yn ôl y pôl newydd gan gwmni Survation, sydd wedi’i gomisiynu gan S4C, mae Reform UK bellach yn debyg o ennyn 29.6% o’r bleidlais, gyda Phlaid Cymru bron i ddau bwynt ar eu holau ar 27.8%.
Dan Thomas yn gwrthod ymbellhau oddi wrth sylwadau Arron Banks
Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi disgrifio sylwadau’r aelod o Reform UK fel rhai “hollol hiliol” #gwleidyddiaeth

Mae arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi gwrthod ymbellhau oddi wrth sylwadau hiliol y miliwnydd Arron Banks. Mewn neges ar X (Twitter gynt), gofynnodd Banks, “Welsh lad?” wrth gyfeirio at fideo ar ran Plaid Cymru gan Bashy, ymgyrchydd cymunedol du o ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd.
Reform UK yn brolio cefnogaeth Gerwyn Price
Mae’r chwaraewr dartiau wedi beirniadu Llafur a Phlaid Cymru’n gyhoeddus #gwleidyddiaeth
74% yng Nghymru eisiau ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd
Ddeng mlynedd ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid gadael, yng Nghymru mae’r gyfran uchaf sydd eisiau dychwelyd erbyn hyn #gwleidyddiaeth
Esboniad gwych. An important read.