Llyfr nesa o’r pentwr, enillydd y Wobr Booker yn 1971, ac un gan awdur dw i erioed wedi’i ddarllen o’r blaen, #VSNaipaul

#DarllenNawr
https://app.thestorygraph.com/books/53495321-5210-452c-8e36-4418c31be0c1

Mynd i mewn i nofel fawr, yr un gyntaf eleni.

Darllenais i The Recognitions y llynedd, llyfr oedd wedi cymryd saith mlynedd i Gaddis ei lunio; cymerodd J R fwy na dwywaith hynny.

Mae bron i gyd mewn deialog, heb unrhyw briodoliadau, felly bach mwy o sialens i’r darllenwr. Bant â ni…

#DarllenNawr #WilliamGaddis #JR
https://app.thestorygraph.com/books/c9b9b621-2c6d-43df-8222-3d38eb7a7d91

The Recognitions by William Gaddis

A postmodern masterpiece about fraud and forgery by one of the most distinctive, accomplished nov...

Llyfr cyntaf yn y Gymraeg ers sbel, diolch i'r RNG (generadur rhifau ar hap), ac esgus da i drefnu cofnodion llyfrau #GeralltLloydOwen ar y Storygraph

https://app.thestorygraph.com/books/abcb4d13-3f37-4801-a5ed-b343e21f943f

#DarllenNawr #barddoniaeth

Wedi gorffen llyfr arall gan #OlgaTokarczuk, yr un olaf ganddi sy mewn print yn yr iaith fain. (Hoffwn i ddarllen “Primeval”, ond ar hyn o bryd dim ond yr e-lyfr sydd ar gael, a dw i ddim yn ffan o ddarllen ar y sgrin fach. Gawn ni weld.)

Dwedwn i taw hwn yw fy ffefryn o bopeth dw i wedi darllen ganddi, ond dw i'n amau mai newid fy ffordd o’i darllen hi sy'n gyfrifol am hynny. Amser ail-ddarllen popeth mewn trefn amser, efallai.

https://app.thestorygraph.com/books/47ea3918-aee2-4739-bc4b-0d0789983aef

#DarllenNawr

House of Day, House of Night by Olga Tokarczuk

'I told Marta that each of us has two homes - one actual home with a fixed location in time and s...

Ail lyfr y flwyddyn, nofel na fyddwn i wedi’i chodi oni bai am her ar y StoryGraph i ddarllen bob enillydd Gwobr Booker.

Mwynheuais i hi yn fwy na’r rhan fwya o adolygwyr sy wedi’i darllen am yr un rheswm. Dw i ddim yn siŵr a fydda i’n ceisio ffeindio a darllen mwy o weithiau Newby ar sail hon, ond roedd yn brofiad darllen difyr, gyda thinc o ddylanwad yr ôl-foderniaid cynnar. Cefndir y stori yw “Argyfwng Suez”.

#DarllenNawr #BookerPrize
https://app.thestorygraph.com/books/fd202477-d90f-47eb-abaf-624add2d5ac9

Casgliad eitha cynnar o straeon byrion #WilliamTVollmann — yr uchafbwyntiau i fi oedd y gyntaf a’r olaf; “The Ghost of Magnetism”, sy’n dangos dylanwad dull Kerouac ar waith y Vollmann ifanc, a “The Grave of Last Stories”, sy’n dilyn Edgar Allan Poe ar daith trwy’r gofod rhwng ei gerddi.

#DarllenNawr
https://app.thestorygraph.com/books/dd314341-de1a-4bd8-b304-493e971ab6c3

Dw i ddim wastad yn mwynhau fideos y boi 'ma, ond dyma un o'r rhai da, ac yn gyflwyniad da i waith #ThomasPynchon, am wn i.

Mae ei ddewis am yr un gorau yn ddiddorol, gan fod e wedi wneud y fideo cyn i ffilm PTA ddod ma's eleni.

https://www.youtube.com/watch?v=8fSoUKd5CeA

#DarllenNawr #bookstodon

Ranking Thomas Pynchon Books From Least Favorite to Favorite: RGBIB 493

YouTube

Ddim wedi darllen nofel gyfan mewn diwrnod ers sbel, ond mae hon yn chwip o stori, mewn pennodau byrion, a doedd dim llawer i’w wneud yn nhŷ fy mam, am unwaith.

#DarllenNawr #PercivalEverett
https://app.thestorygraph.com/books/f32c0d14-e104-4b87-b4f3-c652b949d6b4

Dim cof am ddarllen hon o’r blaen.

Anodd diodde rhai o’r disgrifiadau o ymddwyn coercive control sydd ynddi. Difaru mod i wedi darllen y rhagair (yn y fersiwn Penguin) oedd yn cynnwys spoiler mawr am ddiwedd y stori!

#DarllenNawr #Bookstodon
https://app.thestorygraph.com/books/f580ae23-11a9-463b-8372-449805a0aa78

Llyfr #70 am eleni, awdur newydd i fi er i fi nabod yr enw. Roedd Philippa wedi mwynhau ei Sarn Helen, sydd ar y silff rywle, ond dw i’n ffansïo nofel.

#DarllenNawr #TomBullough
https://app.thestorygraph.com/books/87eb1f6b-17b4-4732-9051-c6f5aae494c7