Yn y Llew Du dair munud ar ôl iddyn nhw agor yn eu gwedd newydd ar ôl bod ar gau ers (?) blwyddyn
… ac mae’n braf dweud bod ‘na dafarn dda arall yn Aberteifi eto. Cwrw da (dim byd lleol, sy’n drueni), cerddoriaeth isel, celfi cyfforddus, bach o olau, popeth yn ddwyieithog a’r staff — o leia y boi wnaeth dynnu mheint i — yn Gymraeg.